
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio Afon Menai yn dilyn adroddiadau bod person wedi mynd i mewn i'r dŵr.
Cafodd yr hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon eu galw i'r ardal bore Mawrth, ynghyd â thimau symudol o Fangor, Llandwrog a Phenmon.
Mae criwiau RNLI o Fiwmares a Moelfre hefyd yn rhan o'r ymgyrch.
Ond yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae chwiliadau Gwylwyr y Glannau wedi dod i ben am y diwrnod.
Dwyeddod llefarydd gan yr heddlu: "Mae ein hymholiadau’n parhau i sefydlu pwy yw’r person hwn a’r amgylchiadau a arweiniodd at wneud yr adroddiad."