Cofis ar gynfas Cymru Premier

Friday, 12 September 2025 17:28

By Ystafell Newyddion MônFM

CBDC

Mae murlun unigryw wedi'i ddatgelu yng Nghaernarfon fel rhan o brosiect celfyddydau pêl-droed.

Mae 'Canfas Cymru Premier' yn canolbwyntio ar greu murluniau i ddathlu hunaniaethau’r 12 clwb yn uwch-gynghrair Cymru.

Mae murlun y Cofis, ar Stryd Y Porth Mawr, yn darlunio Owain Glyndwr yn gwisgo crys Caernarfon gyda’r castell yn y cefndir.

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), mae'r murlunau'n cipio ysbryd pob tîm, gan gynnwys eu hanes, eu harwyr ac eu hetifeddiaeth.

Dywedodd Olly Allen, rheolwr cyfryngau ar gyfer pêl droed domestig CBDC: "Mae wedi bod yn wych gweld y prosiect hwn yn dod yn fyw dros y misoedd diwethaf a’r murluniau a grëwyd yn amlygu’n wych hunaniaethau unigryw ein clybiau Cymru Premier."

"Fel rhan o strategaeth Cymru Premier, rydym yn anelu at godi proffil ac ymwybyddiaeth o’r clybiau ac mae’r prosiect hwn yn darparu darnau parhaol o gelf sy’n gweithredu’r nod hwnnw."

"Mae cymuned hefyd wrth wraidd ein datblygiad o’r gynghrair ac mae’r murluniau hyn yn helpu’r clybiau i ymgysylltu gyda chefnogwyr hen a newydd."

Wrth weithio ochr yn ochr â’r asiantaethau creadigol The Deep Creative a SixFive Design, comisiynodd JD Cymru Premier furluniau pwrpasol ar gyfer y 12 clwb sy’n cystadlu yn nhymor 2025/26.

Yn dilyn sesiynau ymgynghori gyda’r clybiau, dyluniwyd y murluniau gan yr arlunydd Mike Miles-Boardman, sylfaenydd Visually Speaking, a’u paentio gan yr artist o Sir Benfro, Lloyd the Graffiti

Dywedodd Edd Norval, cyfarwyddwr The Deep Creative: "Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at wead o hunaniaethau amrywiol ledled Cymru, gan weithio gyda’r clybiau i ddeall y gwahaniaethau hyn, tra’n eu gweu at ei gilydd i adrodd stori ehangach."

"Fel cyfanwaith, nid yw’n ymwneud â’r gwahaniaethau hynny’n wir, ond sut mae’r gwahaniaethau hynny’n dod â ni at ei gilydd fel cefnogwyr pêl-droed."

"Mae gweithio gyda’r clybiau a’r CBDC ar hyn wedi galluogi celf i adrodd straeon, boed ar stadia neu mewn lleoliadau cymunedol amlwg."

"Gobeithiwn y bydd y gweithiau celf hyn yn dod â chefnogwyr ynghyd – nid yn unig i ddathlu’r clwb yr ydych yn ei garu, ond pob murlun fel atyniad ynddo’i hun wrth deithio ar ddiwrnodau oddi cartref."

"Gobeithiwn hefyd fod y dyluniadau’n rhoi ymdeimlad o falchder i gefnogwyr ac aelodau pob clwb a chymuned, gan atgyfnerthu eu cariad at y gêm hardd."

Ar hyn o bryd, Caernarfon sydd ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru ar ôl eu chwe gêm gyntaf y tymor, ond oherwydd gwaith adnewyddu yn yr Oval, mae'r tîm yn chwarae eu gemau cartref trwy rannu tir yng Nghlwb Pêl-droed Llandudno, sy'n chwarae yng nghynghrair Cymru North.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The Connections Show

    8:00pm - 10:00pm

    Punk to funk... and everything in between....

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'