Crib Goch: dyn wedi marw ar ôl disgyn

Tuesday, 19 August 2025 15:03

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Steven Brown)

Mae dyn 36 oed wedi marw ar ôl disgyn o fynydd Grib Goch yn Eryri.

Galwyd y gwasanaethau brys, gan gynnwys tîm achub mynydd Llanberis, i'r grib tua 11.30am fore Sadwrn diwethaf.

Cafodd y dyn ei gludo o'r mynydd gan hofrennydd, ond cyhoeddwyd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.

Nid yw'r dyn wedi cael ei enwi yn ffurfiol eto ond mae ei berthnasau agosaf a'r crwner lleol wedi cael gwybod.

Dyweddod yr Arolygydd Jamie Owens o Heddlu'r Gogledd Cymru: "Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn."

"Mae ein hymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn yn parhau."

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y cwymp i ffonio 101 neu ddefnyddio'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000678802. 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie a Dai

    5:00pm - 7:00pm

    Ymunwch â Zowie a Dai am ddwy awr o gerddoriaeth gwych a digon o hwyl rhwng 5 a 7 ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'