Mae Cyngor Môn wedi croesawu cyfarwyddwyr o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal y cyntaf mewn cyfres o sesiynau galw heibio.
Daeth y tîm iechyd cymunedol integredig o BIPBC i gwrdd â chynghorwyr lleol fel rhan o fenter newydd sy'n cael ei chyflwyno ar draws Gogledd Cymru.
Yn ystod y fenter hon, bydd uwch swyddogion y bwrdd Iechyd hefyd yn mynychu pwyllgor sgriwtini'r cyngor sir.
Dyweddod Paul Andrew, cyfarwyddwr gweithrediadau cymuned iechyd integredig yn y Gorllewin: "Bwriad y sesiynau galw heibio yw rhoi cyfle i gynghorwyr godi pryderon yn eu hardaloedd lleol gyda rheolwyr sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hynny."
"Mae hefyd yn gyfle i'r bwrdd iechyd rannu manylion am sut mae gwasanaethau'n cael eu gwella."
"Ynys Môn oedd yr awdurdod lleol cyntaf i gynnal sesiwn wrth i'r Bwrdd Iechyd baratoi i ailadrodd yr ymarferiad gyda'r pum cyngor arall yng ngogledd Cymru yn y misoedd i ddod. Gobeithir y bydd y sesiwn nesaf yn Ynys Môn yn cael ei chynnal mewn chwe mis."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Jones, sydd hefyd yn aelod annibynnol ar fwrdd BIPBC: "Rydym yn falch, fel cynghorwyr, o groesawu cydweithwyr o BIPBC."
"Roedd yr ymweliad yn gyfle pwysig i drafod materion yn ymwneud ag iechyd sy'n cael eu hamlygu i ni gan drigolion Ynys Môn."
"Mae eu hymrwymiad i fynychu cyfarfodydd sgriwtini perthnasol yn ein galluogi i ddarparu adborth adeiladol mewn perthynas â materion iechyd, er mwyn cefnogi safonau darparu gwasanaeth uchel."
"Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad cadarn i wella cyfathrebu a dealltwriaeth er mwyn hyrwyddo cydweithio a phartneriaeth mewn meysydd lle mae gwasanaethau'n gorgyffwrdd."


Byrgleriaethau yn Amlwch: arestio dyn
Carcharu dyn o Fangor am ymosodiad treisgar
Caergybi: arestio dau am droseddau cyffuriau
Llangefni: carcharu dyn am gario cyllell
Newidiadau amserlen Avanti yn 'siomedig iawn'