Cyflwyno terfyn pwysau i Bont Menai

Friday, 3 October 2025 16:43

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Mae Pont Menai ar agor i geir gyda therfyn pwysau newydd o 3 tunnell o hyn ymlaen ar argymhelliad peirianwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.

Ni fydd cerbydau mwy yn cael croesi ac bydd yr heddlu wrth y bont i sicrhau fod pobl yn cydymffurfio.

Mae'r penderfyniad yn dilyn gwaith ymchwilio o dan y bont a gynhaliwyd fel rhan o ail gam y gwaith atgyweirio. Dangosodd yr ymchwiliad fod angen ailosod rhai o'r bolltau ar drawstiau o dan y bont.

Mae peirianwyr wedi argymell bod y bont yn ddiogel i draffig ei defnyddio gyda'r terfyn pwysau newydd.

Mae'r argymhelliad wedi dod gan beirianwyr sy'n gweithio i Briffyrdd y DU A55 sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont.

Dywedodd ysgrifennydd trafnidiaeth, Ken Skates: "Y cyngor brys gan beirianwyr strwythurol yw y dylai Pont Menai gael terfyn pwysau newydd."

"Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol, ond mae'n rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr."

"Rwy'n gwybod y bydd hyn yn achosi pryder arbennig heno gyda dyfodiad Storm Amy a'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar Bont Britannia. Mae trefniadau ar waith i gerbydau brys groesi pe bai'r Britannia ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion."

"Byddwn yn parhau i bwyso ar Briffyrdd y DU A55 am ddatrysiad cynnar i'r sefyllfa hon sy'n peri pryder i mi a llawer o bobl eraill."

Bydd y terfyn pwysau yn aros mewn grym nes bod ymchwiliadau pellach wedi digwydd, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Bydd diweddariadau pellach dros y dyddiau nesaf gan gynnwys diweddariadau ar yr effaith ar y rhaglen waith ar y bont yn y tymor hwy.

Mewn ymateb, dwyeddod Rhun ap Iorwerth, yr AS Plaid Cymru dros Ynys Môn: "Bydd newyddion am gyfyngiadau pellach dros Bont y Borth yn achosi rhwystredigaeth yn lleol, wrth reswm."

"Er bod yn rhaid i ddiogelwch barhau i fod yn flaenoriaeth, rydym bellach bron i dair blynedd i mewn i’r gwaith atgyweirio ac mae problemau newydd yn dal i gael eu darganfod, a allai achosi oedi pellach."

"Mae trigolion Ynys Môn yn haeddu eglurder ynghylch sut y bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn effeithio ar amserlen y prosiect, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru’r effeithiau negyddol."

"Byddaf yn ysgrifennu at yr ysgrifennydd cabinet dros drafnidiaeth ar frys a byddaf yn rhannu unrhyw ymateb gyda’m hetholwyr cyn gynted â phosib."

Dwyeddod arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard: "Er ein bod yn deall y rhesymeg dros gyfyngu’r traffic dros Bont Menai, mae’n bryder i ni fel trigolion na chafodd y gwendid yma ei amlygu yn ystod yr archwiliadau blaenorol."

"Mae’r cyfyngiadau yn amlygu unwaith yn rhagor y pryder rydym ni fel gwleidyddion Ynys Môn wedi ei ddatgan dro ar ôl tro am ddiffyg gwytnwch ein cysylltiadau gyda’r tir mawr."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    11:00am - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'