Cyflwyno'r cynnig gofal plant yng Ngwynedd

Thursday, 8 October 2026 14:02

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru ar gyfer plant dwy oed yn cael ei gyflwyno yng Ngwynedd.

O'r wythnos hon, bydd rheini a gofalwyr pob plentyn dwy oed yn y sir yn gallu gwneud cais am 12 awr a hanner yr wythnos o ofal plant wedi’i ariannu.

Mae'r cynnig cyffredinol hefyd yn cael ei gyflwyno ar Ynys Môn, fel rhan o gyflwyniad cenedlaethol ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud y bydd yr oriau wedi’u hariannu ar gael i’w defnyddio o 2 Tachwedd ymlaen gyda darparwyr gofal plant sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y cyngor.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Menna Trenholme, sydd hefyd yn aelod o'r cabinet dros plant a chefnogi teuluoedd: "Mae hwn yn gam sylweddol i deuluoedd ar draws y sir ac mae’n cefnogi’r weledigaeth a nodir yng nghynllun y cyngor 2023-2028 o greu sir lle gall pobl ffynnu."

"Drwy fuddsoddi yn ein trigolion ieuengaf, rydym yn helpu i sicrhau bod plant yn cael mynediad at brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel sy’n cefnogi eu datblygiad, eu lles a’u dysgu yn y dyfodol."

"Bydd y cynnig hefyd yn darparu cymorth i rieni a gofalwyr, gan helpu mwy o deuluoedd i oresgyn rhwystrau i waith neu hyfforddiant sy’n deillio o drefniadau gofal plant."

"Mae rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant yn un o’r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn eu gwneud ar gyfer dyfodol Gwynedd, ac mae’r cynnig hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau i ffynnu."

Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn "cyflymu" ei hymrwymiadau i deuluoedd.

Mae cynlluniau yn y dyfodol i ymestyn y gefnogaeth i blant dwy oed o 12 i 20 awr yr wythnos ac i ymestyn y gwasanaeth i blant tair a phedair oed, ac yn y pen draw, i blant bach rhwng naw mis a dwy oed.

Ychwanegodd Sioned Williams: "Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod yn cyflymu ein hymrwymiadau i deuluoedd Cymru."

"Cymru sydd â’r costau gofal plant uchaf yn y DU ac rydw i’n benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru, gan gefnogi datblygiad plant ar yr un pryd. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gyflwyno’r cynnig hwn ym mhobman."

Dywed Cyngor Gwynedd y bydd y cynnig hefyd yn cefnogi darparwyr gofal plant lleol i reoli’r galw cynyddol a chryfhau cynaliadwyedd hirdymor y sector.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Zowie a Dai

    4:00pm - 7:00pm

    Tiwns gwych, digon o chwerthin ac ambell beth annisgwyl...

Wedi Chwarae / Previously Played

  • 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice

    MônFM
  • 3:55pm

    Every Little Thing She Does Is Magic

    Police
  • 3:52pm

    Dance Away

    Roxy Music
FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'