Mae cyfyngiadau wedi cael eu cyflwyno ar gyfer arddangosfa flynyddol Noson Tân Gwyllt yng Nghaernarfon eleni.
Ni fydd neb yn cael gwylio'r tân gwyllt o dros yr Aber yn dilyn "digwyddiadau gwrth-gymdeithasol difrifol ac ymddygiad peryglus" yn ystod arddangosfa'r llynedd.
Cytunwyd ar gyfyngiadau mewn cyfarfod arbennig rhwng Cyngor Tref Caernarfon, Heddlu Gogledd Cymru, Clwb Llewod Caernarfon a'r cwmni sy'n trefnu'r tân gwyllt eleni.
Dyweddod llefarydd ar ran y cyngor: "Cafwyd achosion o bobl yn ceisio gwylio’r arddangosfa o ardaloedd peryglus ac anwybyddu cyngor stiwardiaid y llynedd ac mae’r trefnwyr yn awyddus i sicrhau dyfodol yr arddangosfa."
"Bydd y mesurau newydd yn golygu na fydd modd gwylio’r arddangosfa o dros yr Aber gyda’r ffordd ar gau o’r clwb golff ac ymgyrch codi ymwybyddiaeth o sut i wylio’r arddangosfa yn ddiogel."
Mae'r trefnwyr hefyd yn cynghori gwylwyr i beidio â dod ag unrhyw dân gwyllt, gan gynnwys sparclyrs, i'r i'r arddangosfa.
Bydd yr arddangosfa yn digwydd nos Fercher 5ed Tachwedd am 6.30yh, wedi'i drefnu gan Gyngor y Dref mewn partneriaeth â Chlwb y Llewod a threfnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon. Bydd stondinau bwyd ar y prom yn agor am 5.30yp.
Dwyeddod llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Bydd Lon Coed Helen, Ffordd yr Aber, Ffordd o Allt y Castell i Pen Deitsh, Tan y Bont a Cei Banc, Caernarfon ar gau ar y 5ed o Dachwedd rhwng 5yp a 8yh. Bydd arwyddion mewn lle ar gyfer defnyddwyr ffordd."


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi