
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei gyhuddo yn dilyn ymosodiad ar ddyn yn ei arddegau ym Mangor.
Cafodd tri pherson ifanc eu arestio yn dilyn digwyddiad ar Ffordd Llandegai yn y ddinas ychydig cyn 8.30 nos Fawrth.
Mae dyn ifanc mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Stoke, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r bachgen 16 oed wedi cael ei gyhuddo o anafu gyda bwriad a bod â llafn mewn man cyhoeddus.
Roedd yn cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno cyn bo hir.
Mae ditectifs wedi rhybuddio'r cyhoedd i beidio â rhannu lluniau o'r digwyddiad, sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol gan fod achos cyfreithiol bellach ar waith.
Dyweddod Jamie Owens, Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd: "Rydym yn gwerthfawrogi bod y digwyddiad hwn wedi achosi pryder yn y gymuned a hoffwn sicrhau trigolion y bydd patrolau cynyddol yn parhau yn yr ardal."
"Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cysylltu â ni dros y 36 awr ddiwethaf."
"Rydym yn ymwybodol o luniau fideo o'r digwyddiad hwn sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n annog y cyhoedd i osgoi rhannu'r lluniau hyn ar-lein gan fod achos cyfreithiol bellach ar waith."
"Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion a oedd yn bresennol, cydweithwyr y gwasanaethau brys, ac aelodau’r cyhoedd am eu cymorth yn y fan a’r lle, ac i’r tîm ymchwilio am sicrhau’r cyhuddiadau hyn."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C102685.