
Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Catrin Thomas fel cyfarwyddwr corfforaethol newydd.
Mae Catrin o Llanrug yn olynu Geraint Owen, sydd wedi ymddeol wedi 41 mlynedd o wasinaeth i'r cyngor sir a'r hen Gyngor Sir Gwynedd.
Mae'r cyfarwyddwyr corfforaethol yn dirprwyo ar gyfer ac yn cefnogi'r prif weithredwr yr awdurdod lleol, Dafydd Gibbard.
Dyweddod Catrin: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i’r swydd hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda thimau ymroddedig y cyngor ac amryw bartneriaid y cyngor, i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf i drigolion a chymunedau lleol."
Mae Catrin yn ymuno gyda’r Cyngor o gymdeithas dai Adra, ble mae’n bennaeth ar wasanaethau cwsmeriaid. Gweithiodd Catrin yn flaenorol mewn sawl adran yng Nghyngor Gwynedd dros gyfnod o 20 mlynedd.
Dyweddod arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys: "Ar ôl cael y cyfle i gydweithio’n agos â hi yn ystod ei chyfnod blaenorol gyda’r cyngor, rydw i’n gwybod o brofiad pa mor frwdfrydig ac angerddol yw hi am ei gwaith."
"Mae bob amser yn bleser gweithio gyda Catrin, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at y bennod nesaf i Gyngor Gwynedd. Bydd ei phrofiad diweddar o weithio i cymdeithas dai Adra hefyd yn dod a persbectif gwahanol i’r cyngor."
“Mae’r cyngor wedi ymrwymo i annog mwy o amrywiaeth yn rolau rheoli ac arwain o fewn y sefydliad, ac mae penodiad Catrin yn gam cadarnhaol wrth i ni geisio ysbrydoli mwy o ferched i ystyried gyrfa mewn arweinyddiaeth gyhoeddus."
“Diolch o galon i Geraint am y degawdau o wasanaeth gwerthfawr y mae wedi’u rhoi i lywodraeth leol. Dymunaf bob hapusrwydd iddo yn ei ymddeoliad, gan obeithio y bydd yn cael y cyfle haeddiannol i fwynhau amser gyda’i deulu ac i hamddena.”
Ychwanegodd Dafydd Gibbard: "Mae Catrin yn gyfarwydd i nifer fawr ohonom yn barod yma yng Nghyngor Gwynedd, ac mae’n bob amser yn braf gweld cyn aelodau staff yn dychwelyd i’r awdurdod gyda phrofiadau gwerthfawr o sefydliadau eraill."
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddymuno’n dda i Geraint Owen ar ei ymddeoliad a diolch iddo am 41 mlynedd o wasanaeth ymroddedig i Gyngor Gwynedd, a Chyngor Sir Gwynedd gynt. Mae cyfraniad, ymrwymiad a phrofiad Geraint dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy."