Cyngor yn targedu staeniau gwm cnoi

Tuesday, 24 June 2025 19:25

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Bydd gweithwyr cyngor yng Ngwynedd yn mynd i'r afael hen gwm cnoi oddi ar balmentydd a strydoedd, yn dilyn grant gan fudiad cenedlaethol.

Mae'r cyngor sir wedi wedi gallu prynu peiriant stêm arbenigol newydd i fynd i'r afael â'r broblem, yn diolch i grant o £26,752 gan y Tasglu Gwm Cnoi, sy'n fenter genedlaethol a redir gan DEFRA.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y timau Tacluso Ardal Ni gan Cyngor Gwynedd i'w gweld ar draws cymunedau'r sir yn ddefnyddio yr peiriant.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, aelod y cabinet dros priffyrdd: "Mae gwm cnoi sy'n cael ei daflu'n ddiofal yn fater sy'n cael ei godi o hyd gan drigolion y sir, felly mae'n newyddion da ein bod wedi llwyddo i brynu offer arbenigol i fynd i'r afael a'r broblem."

"Rydym yn ddiolchgar i'r Chewing Gum Task Force am eu buddsoddiad, a gobeithio bydd y gwaith fydd yn digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf gan y Timau Tacluso yn dod a gwedd newydd i balmentydd a strydoedd Gwynedd."

Mae'r cyngor yn un o 52 awdurdod lleol ledled y DU sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan y tasglu i fynd i'r afael â'r broblem o gwm ar palmentydd.

Dyma'r trydydd flwyddyn yn olynol i Gyngor Gwynedd ddenu arian gan y cynllun, sy'n cael ei weinyddu gan elusen annibynnol Keep Britain Tidy.

Mae'r cynllun yn dod â rhai o gynhyrchwyr gwm cnoi mwyaf y wlad ynghyd mewn partneriaeth i gael gwared ar sbwriel gwm cnoi o strydoedd y DU a hefyd i atal sbwriel yn y dyfodol.

Ychwanegodd Steven Edwards, rheolwr edrychiad stryd gan Cyngor Gwynedd: "Yn anffodus, bydd llawer o bobl Gwynedd wedi cael y profiad o gael gwm cnoi wedi ei ollwng gan rywun arall yn glynu yn ein hesgidiau neu ddillad, ac yn ei gario i fewn i'w cartref, i'r ysgol neu weithle."

"Dyna pam rydym yn gweithio'n galed i addysgu pobl i beidio taflu'r gwm yn ddi-hid yn y lle cyntaf."

"Mae'n bwysig cofio hefyd bod gwaredu gwm cnoi mewn ffordd anghyfrifol yn achosi niwed i'n hamgylchedd, ac yn cymryd blynyddoedd i ddadelfennu'n naturiol, sy'n cynyddu pwysau a chostau glanhau ar y cyngor."

"Fel rhan o'r prosiect hwn rydym yn annog pobl leol i helpu'r achos; trwy godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch ar ffurf  arwyddion, a chyhoeddi negeseuon ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy'n annog defnyddwyr i roi eu gwm yn y bin wedi iddynt orffen ag ef, fydd yn helpu i gadw strydoedd Gwynedd yn lân ac yn daclus."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Timau Tacluso Ardal Ni yn gweithio ar draws holl gymunedau Gwynedd, yn mynd i'r afael a'r tasgau bychan ond pwysig er mwyn gwella'r amgylchedd leol."

"Os hoffech i un o'r timau ymweld â'ch cymuned chi, siaradwch gyda'ch cynghorydd sir lleol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    10:00am - Noon

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'