Mae Cyngor Môn yn wynebu dirwy am fethu targed allweddol ar gyfer cyfraddau ailgylchu.
Bydd newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff yn y dyfodol yn cael eu hystyried fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus yn y Flwyddyn Newydd.
Yn ôl pwyllgor y cyngor sir, mae'r gyfradd bresennol ar yr ynys yn 65% - islaw'r targed cenedlaethol o 70% fel y'i gosodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r awdurdod lleol yn wynebu perygl gwirioneddol o gael dirwy o fwy na £350,000 bob flwyddyn.
Mae'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau ailgylchu yn cynnwys gostyngiad mewn casgliadau biniau du i bob pedair wythnos.
Dyweddod Huw Percy, pennaeth gwastraff Cyngor Môn: "Rydym yn deall bod gan wahanol gartrefi wahanol anghenion. Efallai y bydd gan deuluoedd mawr, pobl mewn eiddo gwledig, cartrefi gyda storfa gyfyngedig, a thrigolion sydd eisoes yn ailgylchu'n helaeth bryderon am unrhyw newidiadau."
"Mae'r ymgynghoriad yma'n gyfle hanfodol i sicrhau bod ni'n deal eu barn nhw'n llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau."
"Gan y gallai unrhyw newidiadau posib i'n gwasanaethau casglu effeithio ar bob cartref ar Ynys Môn, byddwn yn annog pob preswylydd i ddweud eu dweud."
O mis Ionawr, bydd yr ymgynghoriad chwe wythnos yn caniatáu i drigolion gael dweud eu dweud am newidiadau posib i wasanaethau, gan gynnwys hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ailgylchu deunydd wedi'i gyfuno.
Yn ôl y cyngor, mae'r data'n dangos y gellid ailgylchu tua 52% o'r gwastraff sydd yn cael ei roi mewn biniau du ar Ynys Môn ar hyn o bryd ac mae ailgylchu gwastraff bwyd ar lefelau 'cymharol isel' o'i gymhau ag rhannau eraill o Gymru.
Byddai newidiadau yn angen buddsoddiad ariannol sylweddol er mwyn newid gwasanaethau i gynorthwyo gyda chynyddu ailgylchu - ond dim ond prosiectau sydd â chyfle gwirioneddol o gefnogi'r cyngor i gyrraedd y gyfradd o 70% fydd yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cyngor wedi nodi ymrwymiad clir i ddiogelu'r amgylchedd a lleihau ei hôl troed carbon, fel rhan o'i chynllun pum mlynedd, sy'n rhedeg tan 2028
Ychwanegodd y Cynghorydd Ieuan Williams, s'yn deilio portffolio gwastraff: "Hoffwn ddiolch i drigolion Ynys Môn am eu hymdrechion ailgylchu a sicrhau ein bod ni wedi cyrraedd dros 65% hyd yma. Nawr mae angen eu cefnogaeth arnom i fynd y filltir ychwanegol honno."
"Rydym eisiau darparu mwy o gyfleoedd i gartrefi ailgylchu yn ogystal â lleihau faint o wastraff sy'n mynd i'n biniau du. Bydd hyn yn helpu i leihau allyriadau, diogelu adnoddau gwerthfawr, ac yn helpu i greu Ynys Môn lanach, gwyrddach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
"Drwy ymgynghori gyda thrigolion, rydym eisiau dangos i Lywodraeth Cymru ein bod o ddifrif am wneud gwelliannau; cyrraedd y targed ailgylchu statudol o 70% ac osgoi'r dirwyon hyn."
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar dydd Mercher 7 Ionawr ac hefyd yn cynnwys nifer o sesiynau galw heibio i lyfrgelloedd lleol.


Dysgwyr yn codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd
Porthaethwy: dyn yn pledio'n euog i ddelio cyffuriau
Dirwy o £20,000 am waith trydanol anniogel
Chwe dyn yn y llys ar gyhuddiadau cyffuriau
Bethesda: carcharu dyn am wrthdrawiad bwriadol