Cynllun adfywio Amlwch yn mynd rhagddo

Tuesday, 13 January 2026 14:25

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae cyllid wedi'i gymeradwyo i adnewyddu hen adeilad y derfynfa forol ym Mhorth Amlwch.

Bydd 95 o swyddi'n cael eu creu fel rhan o'r cynllun gwerth £10.4 miliwn, sy'n cynnwys deg uned fusnes newydd yn yr ystâd ddiwydiannol gerllaw.

Yn ôl Uchelgais Gogledd Cymru (UGC), bydd y proseict yn rhoi hwb o bron i £34 miliwn i economi'r rhanbarth yn y degawd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, aelod arweinol rhalgen tir ac eiddo UGC: "Mae'r gymeradwyaeth hon yn gam sylweddol arall ymlaen i'r prosiect arbennig hwn ac i Ynys Môn – mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi cymunedau ac economïau lleol ledled y rhanbarth."

"Bydd y prosiect yn darparu mannau busnes o ansawdd uchel, yn creu cyfleoedd swyddi newydd, ac yn helpu i ddenu buddsoddiad i ardal sydd â photensial sylweddol."

"Rydym yn falch o gymeradwyo'r achos cyfiawnhad Busnes ar gyfer y prosiect sy'n golygu y gall symud ymlaen i'r cam nesaf i sicrhau cyllid, gan ddod â buddion i bobl a busnesau Ynys Môn."

Mae prosiect safleoedd ac adeiladau Gogledd Ynys Môn yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru ac yn eistedd yn benodol o fewn rhaglen tir ac eiddo y cynllun twf, sy'n anelu at fynd i'r afael â heriau hirsefydlog yn y farchnad eiddo ranbarthol.

Gall y prosiect nawr fwrw ymlaen gyda chaffael a chwblhau'r cytundeb menter ar y cyd rhwng Cyngor Môn a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gary Pritchard, arweinydd y cyngor sir: "Mae hwn yn fuddsoddiad hanfodol i Amlwch ac ardal ehangach Gogledd Ynys Môn. Bydd adnewyddu adeilad y derfynfa forol a chreu unedau diwydiannol newydd yn darparu gofod modern, hyblyg i fusnesau lleol dyfu a ffynnu."

"Rydym yn ddiolchgar i Uchelgais Gogledd Cymru a'n partneriaid am eu cefnogaeth, ac edrychwn ymlaen at symud ymlaen gyda'r prosiect pwysig hwn. Bydd yn chwarae rhan ganolog wrth adfywio'r economi leol a darparu buddion parhaol i'n cymunedau."

Ychwanegodd Rebecca Evans, ysgrifennydd dros economi: "Mae Prosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Môn yn rhan allweddol o weledigaeth adfywio feiddgar sy’n dod yn realiti i drigolion a busnesau."

"Gyda £120m o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn trawsnewid economi’r rhanbarth."

Bydd y gwaith adeiladu ar y ddau ddatblygiad yn dechrau ym mis Ebrill a'i gwblhau yng Ngwanwyn 2027. Mae'r ffrydiau ariannu arfaethedig yn cynnwys £6.994m o Gynllun Twf Gogledd Cymru ochr yn ochr â chyllid gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn ar Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA).

Dywedodd Jamie Reed, cyfarwyddwr economeg gymdeithasol ADN: "Rydym yn falch o adeiladu ar ymrwymiad blaenorol ein grŵp i adfywio Gogledd Ynys Môn, gan helpu nawr i wireddu’r datblygiadau trawsnewidiol."

"Bydd hyn yn hybu’r economi leol, yn creu cyfleoedd cyflogaeth leol, yn cadw treftadaeth ac yn cefnogi iechyd a lles."

Ychwanegodd Anna McMorrin, gweinidog Swyddfa Cymru: "Mae cynnydd yn y prosiect adfywio hwn yn newyddion gwych i Ynys Môn."

"Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud gyrru twf economaidd a chreu swyddi newydd yn brif genhadaeth i ni. Rydym yn cefnogi’r ymrwymiad hwn trwy ariannu Cynllun Twf Gogledd Cymru, rhoi arian ym mhocedi pobl, a darparu cyfleoedd ym mhob cornel o Gymru."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'