
Bydd cynllun gofal i blant ifanc yn cael ei ymestyn i fwy o ardaloedd yng Ngwynedd.
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynlluniau i ehangu ddarpariaeth Dechrau'n Deg ym Mhenygroes.
Bydd 200 o blant ychwanegol oedran cyn-ysgol mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir yn cael budd o ofal plant am ddim.
Ar hyn o bryd mae'r rhaglen Dechrau'n Deg wedi ei sefydlu mewn saith cymuned yng Ngwynedd, ac yn cefnogi teuluoedd gyda phlant 0-4 oed drwy gynnig gwasanaeth ymwelwyr iechyd dwys, cefnogaeth teulu, cymorth iaith a lleferydd, a 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed.
Mae'r penderfyniad yn golygu bydd mwy o deuluoedd o fewn cymuned Penygroes yn derbyn y gwasanaethau hyn. Yn ogystal, bydd un ar ddeg cymuned o fewn y sir yn derbyn budd o ofal plant am ddim i blant dwy oed, gan gynnwys:
- Tywyn
- Harlech
- Llandderfel a Llanuwchllyn
- Penrhyndeudraeth
- Efailnewydd / Buan
- Aberdaron/Botwnnog/ Tudweiliog
- Cricieth
- Waunfawr
- Llanberis
- Arllechwedd
- Porthmadog Gorllewinol
Wrth dderbyn y cynnig gan Lywodraeth Cymru (Grant Plant a Chymunedau ar gyfer Dechrau'n Deg) bydd dros i £4 miliwn ar gael yn flynyddol am y tair blynedd nesaf.
Dwyeddod arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys: "Mae cael mynediad at ofal plant da yn lleol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i ddatblygiad plentyn."
"Nid hwn yw'r tro cyntaf i gabinet y cyngor gymeradwyo cefnogi cynlluniau Dechrau'n Deg, a dros y blynyddoedd rydym wedi gweld gofodau pwrpasol yn cael eu datblygu er mwyn helpu teuluoedd gyda gofal plant yn y blynyddoedd cynnar yn Neiniolen, Tywyn a Phenygroes."
"Mae cynlluniau fel hyn yn rhoi y cychwyn gorau i blant ac hefyd yn mynd i'r afael ag amddifadedd ac yn cynyddu darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sir."
"Rwy'n edrych ymlaen at weld rhagor o blant a theuluoedd Gwynedd yn elwa o'r cynllun, a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar eu dyfodol."
Fel rhan o ehangu'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn Mhenygroes mae adeilad modwlar newydd wedi ei ddatblygu ar safle Ysgol Bro Lleu ym Mhenygroes.
Mae'r cyfleuster gofal plant newydd wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio cyllid rhaglen gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru – rhaglen gyfalaf sy'n cefnogi prosiectau gofal plant newydd a chynnal a gwella'r seilwaith gofal plant a Dechrau'n Deg presennol.
Cafodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod y cabinet dros plant a chefnogi teuluoedd, a'r Cynghorydd Craig ab Iago, aelod lleol Penygroes gyfle i ymweld â'r cyfleusterau newydd yn Ysgol Bro Lleu yn ddiweddar.
Meddai'r Cynghorydd Trenholme: "Roedd hi'n braf cael y cyfle i ymweld â'r safle, sgwrsio gyda'r plant a gwerthfawrogi'r adnoddau a'r cyfleusterau newydd sydd bellach ar gael yn Plant y Nant, Ysgol Bro Lleu."
"Rydw i'n hynod falch fod y cabinet wedi cefnogi'r bwriad i ehangu'r cynllun – mae'n newyddion da i blant a theuluoedd Penygroes, ond hefyd i rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y sir."
Ychwanegodd rheolwr Plant y Nant: "Rydym yn hynod ddiolchgar am y buddsoddiad ym Mhenygroes, sy'n rhoi cyfle unigryw i ni ehangu ein gwasanaethau a rhoi mwy o gyfleoedd i blant a theuluoedd yn ein cymuned."
"Mae'r gefnogaeth hon nid yn unig yn cryfhau ein hymrwymiad ond hefyd yn gwella ein gallu i wneud effaith ystyrlon ym mywydau'r teuluoedd yn Nyffryn Nantlle."
"Rydym yn edrych ymlaen i greu atgofion newydd, meithrin twf, a meithrin potensial pob plentyn mewn amgylchedd bywiog a chroesawgar."