
Mae arbenigwyr o’r maes materion cymdeithasol wedi dod ynghyd mewn sgwrs gyhoeddus er mwyn trafod pwysigrwydd gwreiddio egwyddorion perthnasau iach ym mlynyddoedd ffurfiannol pobl ifanc.
Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mangor gan arbenigwyr o nifer o asiantaethau ledled Cymru.
Yn ôl un o’r trefnwyr, roedd llwyddiant rhyngwladol y ddrama Netflix “Adolescence” yn sbardun i drefnu digwyddiad o’r fath.
Meddai’r Cynghorydd Dewi Jones, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros addysg: "Deilliodd y digwyddiad hwn o sgwrs dros baned yn dilyn hyfforddiant gan Cymorth i Ferched Cymru ar drais yn erbyn menywod, a gafodd effaith ddofn ar swyddogion a chynghorwyr fel ei gilydd."
“Wrth i ni gysylltu profiadau plentyndod â phatrymau ymddygiad mewn perthnasoedd yn ddiweddarach mewn bywyd – a hynny gyda’r holl sôn am ddarllediad “Adolescence” – penderfynwyd trefnu cyfle i bobl ddod at ei gilydd."
“Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddod â gweithwyr proffesiynol, ymarferwyr, a rhanddeiliaid ynghyd i rannu profiadau, syniadau ac arferion gorau, gyda’r nod o sicrhau bod egwyddorion perthnasau cadarnhaol yn cael eu meithrin o oedran cynnar.”
Ymhlith y siaradwyr a’r cyfranwyr yn y sesiwn ‘Gyda’n Gilydd dros Berthnasau Iach a Ffyniannus’ oedd:
- Shannon Morris – Goroeswr ac ymgyrchydd, sydd wedi cynnal ymchwil diweddar ar ran Mabon ap Gwynfor, AS Dwyfor Meirionydd.
- Nia Thomas – Gymorth i Ferched Cymru.
- Elin Sanderson – Cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CHAMS)
- Y Bont, Penygroes – Yn cyflwyno dau brosiect arloesol: Cwlwm Addysg a Caring Dads.
- Sheryl Minn- Sbectrwm
- Habiba Chowdhury- BAWSO
- Michael Conroy – Men at Work
- Daron Owens, Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn
Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod y cabinet dros blant a phobl ifanc: "Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i wasanaethau gydweithio, rhannu arferion gorau, ac ysgogi trafodaeth am ffyrdd o gryfhau cydweithio er mwyn diogelu pobl ifanc yn y sir."
"Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i flaenoriaethu'r materion a drafodwyd yn ystod y digwyddiad, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng gwasanaethau a mudiadau, a sicrhau cydweithrediad parhaus rhwng asiantaethau."