Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawad yn ymweud â thractor ger Llanfaethlu.
Cafodd yr gwasanethau brys eu galw am yr digwyddiad ar yr A5025 ger tafarn y Black Lion ychydig cyn 1pm brynhawn dydd Mawrth.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd y ddau fachgen ar fwrdd y tractor ar y pryd.
Cafodd y ddau eu cludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond yn diweddarach, cafodd y teithiwr ei drosglwyddo i'r ysbyty yn Stoke oherwydd ei anafiadau.
Bu’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad am beth amser oherwydd gwaith adfer cerbydau.
Mae'r heddlu wedi apelio am unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd hefo lluniau camera dashfwrdd i ffonio 101 neu ddefnyddio eu sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 25000561630.


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi