Bydd De Gwynedd yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.
Mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nglantwymyn nos Fawrth, mae trefnwyr wedi cyhoeddi bydd dalgylch yr Brifŵyl yn ymestyn i'r Gogledd cyn beledd a'r afon Mawddach.
Golygai hyn y bydd De Meirionnydd – gan gynnwys Dolgellau, Bala, Tywyn, Aberdyfi a'r Bermo – yn rhan o ardal yr Eisteddfod Genedlaethol 2027.
Dyma'r tro cyntaf i ran o Wynedd fod yn rhan o ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael ei chynnal mewn sir arall, ac mae cryn edrych ymlaen yn barod am y manteision diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn ei sgil.
Y tro diwethaf i'r ŵyl ymweld â de Gwynedd oedd Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau yn Y Bala yn 2009.
Dwyeddod y Cynghorydd Nia Jeffreys, arweinydd Cyngor Gwynedd: "Rydan ni'n dymuno'n dda i'n cymdogion dros Bont ar Ddyfi gyda'r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod."
"Mae Awst 2027 yn teimlo yn bell, ond gwyddwn o brofiad gyda Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 y bydd yr amser yn gwibio ac edrychwn ymlaen at y bwrlwm o weithgareddau a pharatoadau dros y misoedd nesaf."
"Bydd cynlluniau'r pwyllgorau gwaith lleol yn cael eu cyhoeddi maes o law a dwi'n siŵr y bydd pobl de Meirionnydd yn awyddus i gyfrannu eu hamser, brwdfrydedd a'u profiad wrth helpu i'w gwneud yn Eisteddfod i'w chofio."
"Rydw i'n gwybod y bydd cefnogaeth arbennig ymysg cymunedau de Meirionnydd i gael yr ŵyl unigryw hon ar garreg y drws, ac y bydd pobl leol yn edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i'r fro."
"Fel y rydan ni wedi weld yn Llŷn ac Eifionydd, bydd dylanwad a buddion yr ŵyl i'w teimlo ar draws yr ardal am flynyddoedd i ddod."
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2027 yng Nglantwymyn, Powys o dydd Sadwrn 31 Gorffennaf tan dydd Sadwrn 7 Awst 2027.
Bydd rhanbarth Eryri o Wynedd hefyd yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2028.


Cynllun adfywio Amlwch yn mynd rhagddo
Chwe ymgeisydd yn isetholiad Ynys Gybi
Llangefni: gwaith nwy sylweddol yn dechrau
Dirwy i gyn-reolwr am werthu tybaco anghyfreithlon