
Mae tri o bobl wedi cael eu hanafu mewn 'gwrthdrawiad penben' ger Deiniolen.
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4244 toc cyn 4yp dydd Gwener diwethaf.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad rhwng llety Groeslon Tŷ Mawr a Garej Beran
Dywedodd y llu mai Chevrolet Matiz a Ford Transit oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Fe gafodd dyn oedd yn gyrru Chevrolet a menyw oedd yn teithio yn y car gydag ef, yn ogystal â dyn oedd yn gyrru Ford Transit eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae'r gyrrwr y Chevrolet wedi cael ei drosglwyddo i uned arbenigol yn ysbyty Stoke ers hynny ac mae'r fenyw wedi cael ei rhyddau o'r Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau bach. Mae gyrrwr y Ford Transit hefyd wedi dioddef anafiadau mân.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd Daniel Owen o Uned Plismona’r Ffyrdd: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio yn yr ardal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ac sydd â delweddau dashcam i gysylltu ar unwaith."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch ag Uned Plismona'r Ffyrdd drwy'r sgwrs we fyw neu ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000528948.