Mae pum dyn wedi cael eu harestio yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â drylliau ar stad yng Nghaernarfon.
Cafodd ditectifs eu galw i ardal Lôn y Bryn ychydig cyn 9.40yh nos Sul, yn dilyn adroddiadau o anhrefn cyhoeddus.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd dau ddyn eu harestio o dan amheuaeth o fod ym meddiant dryll tanio mewn lle cyhoeddus.
Cafodd try dyn arall eu harestio o dan amheuaeth o fod ym meddiant arf ymosdol.
Mae swyddogion yr heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal wrth i'r ymchwiliad barhau.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr digwyddiad, cysylltwch gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod Q140111, neu drwy ddefnyddio'r sgwrs byw ar wefan yr heddlu.


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi