Bydd Gwyl Cefni yn cymryd seibiant y flwyddyn nesaf, mae trefnwyr wedi cadarnhau.
Mae gŵyl poblogaidd wedi bod yn cael ei chynnal mewn nifer o leoliadau o amgylch Llangefni ers 2000.
Ond mewn datganiad ddydd Mercher, mae'r pwyllgor trefnu wedi cyhoeddi y bydd yr ŵyl yn cymryd seibiant o flwyddyn "i edrych ymlaen a datblygu".
Gwnaed y penderfyniad "anodd ond angenrheidiol" yn ystod cyfarfod y mis diwethaf, ond mae trefnwyr wedi gwadu ei fod yn golygu diwedd yr ŵyl, a ddathlwyd ei phen-blwydd yn 25 oed eleni.
Dwyeddod llefarydd ar ran Menter Môn, sy'n cydlynu pwyllgor Gŵyl Cefni: "Ers ein gŵyl gyntaf, mae Gŵyl Cefni wedi tyfu y tu hwnt i’n disgwyliadau o ran maint a phoblogrwydd ac wedi tyfu yn aruthrol ac yn hynod gyflym dros y blynyddoedd diweddaraf."
"Er bod y twf yn destun balchder ac yn hwb aruthrol i’r dref yn ystod wythnos yr ŵyl, mae hefyd yn rhoi pwysau a chyfrifoldebau sylweddol uwch ar ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig."
"Ar ôl ystyriaeth ofalus, mewn cyfarfod ar 23 o Fedi, pleidleisiodd y pwyllgor i gymryd blwyddyn i ddatblygu yn 2026."
"Rydym am eich sicrhau nad ydi Gŵyl Cefni yn dod i ben. Yn ystod y flwyddyn nesaf fe fyddwn ni’n chwilio am fwy o aelodau’r pwyllgor a gwirfoddolwyr, chwilio am ffyrdd ychwanegol i gyllido’r ŵyl Gymraeg a Chymreig hon a trefnu gweithgareddau codi arian."

Mae pwyllgor yr ŵyl yn bwriadu cynnal cyfres o weithgareddau cymunedol yn ystod 2026.
Dywedodd Elen Hughes, cyfarwyddwr prosiectau Menter Môn: "Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi Gŵyl Cefni dros y blynyddoedd gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, noddwyr, busnesau lleol, perfformwyr, stondinwyr, ymwelwyr, ac yn bwysicaf oll, yr holl bobl sydd wedi bod yn dod draw i fwynhau a dathlu diwylliant Cymreig a miwsig Cymraeg."
"Rydym mor falch o lwyddiant yr ŵyl. Dros y blynyddoedd, mae wedi tyfu gan ddenu miloedd o fynychwyr dros ddathliad deuddydd o gerddoriaeth Cymraeg yn nhref Llangefni."
"Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd yn 2027 gydag egni newydd, gan sicrhau bod Gŵyl Cefni yn parhau i ddathlu diwylliant bywiog ein cymuned am flynyddoedd i ddod."

Eleni oedd yr ŵyl fwyaf eto, gyda cherddoriaeth fyw a pherfformiadau gan gynnwys Fleur de Lys, Gwilym, Mared, Morgan Elwy a Cordia.
Darlledwyd y digwyddiad yn fyw ar MônFM, gan ennill Gwobr Aur am y Digwyddiad Byw Gorau neu'r Darllediad Allanol yng Ngwobrau Radio Cymunedol yn Bradford.
Ychawnegodd llefarydd ar ran Menter Môn: "Rydym yn ystyried y flwyddyn nesaf fel cyfle i weithio’n agosach gyda busnesau a’r gymuned leol i sicrhau bod ein cymuned yn gallu gwneud y mwyaf o fuddion economaidd yr ŵyl yn 2027 a thu hwnt."
"Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn dechrau cynllunio ar gyfer Gŵyl Cefni 2027 ac rydym hefyd yn galw ar unigolion sydd â diddordeb i ymuno â ni o’r newydd i gynllunio at 2027."
"Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Eisteddfod yr Urdd yn 2026 a rydym yn deall bod ein gwirfoddolwyr a chymunedau yn rhoi llawer o egni a’u hamser at hynny."
"Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli neu bod yn rhan o’r pwyllgor, neu os oes gennych ddiddordeb fod yn gyllidwr ar gyfer Gwyl Cefni, cysylltwch hefo ni: ymholiadau@mentermon.com"

                                                    
                                                                                                
                                                                                                
    
    
            Porth Llechog: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad
        
            Fforwm iaith yn canolbwyntio ar bobl ifanc
        
            Llangefni: arestio llanc wedi honiad o hiliaeth
        
            Cau ffyrdd ar gyfer Ffair Borth
        
            Ailagor Pont Menai yn llawn ar dydd Gwener