
Ni fydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal yn 2026.
Mewn cyfarfod ddydd Llun, mae trefnwyr y digwyddiad poblogaidd, sy'n denu miloedd o ymwelwyr, wedi penderfynu cymryd seibiant o flwyddyn.
Yn ôl pwyllgor yr ŵyl, mae 'na "baich anghynaladwy" ar ei wirfoddolwyr, gyda'r egwyl yn cael ei defnyddio i ddatblygu'r digwyddiad.
Ond mae'r ŵyl fwyd yn addo dychwelyd yn 2027, gyda digwyddiadau codi arian yn parhau yn y cyfamser.
Mewn datganiad, dyweddod llefarydd ar ran Gŵyl Fwyd Caernarfon: "Ers ein gŵyl gyntaf, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi tyfu y tu hwnt i'n disgwyliadau o ran maint a phoblogrwydd."
"Roedd ychwanegu’r ardal deuluol ym Mharc Coed Helen y llynedd yn gam pwysig, ac er bod y twf yn destun balchder ac yn hwb aruthrol i’r dre, mae hefyd wedi dod â chyfrifoldebau a phwysau sylweddol uwch ar ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig."
"Mae’n anodd cyfleu cost ddynol trefnu gŵyl ar y raddfa hon. Rydan ni fel gwirfoddolwyr wedi rhoi oriau di-ddiwedd o'n hamser, ein hegni, a’n hangerdd i wneud pob gŵyl yn llwyddiant."
"Fodd bynnag, mae rhai gwirfoddolwyr allweddol angen camu o’r neilltu yn y flwyddyn i ddod, ac rydym yn cydnabod bod y model presennol yn gosod baich anghynaliadwy ar y rhai sy'n aros."
"Ar ôl ystyriaeth ofalus, mewn cyfarfod ar 9 Mehefin, pleidleisiodd y pwyllgor i gymryd seibiant yn 2026, a dynodi’r flwyddyn honno fel ‘blwyddyn i ddatblygu’."
Bydd y seibiant yn caniatáu inni:
- Addasu ein strwythur trefniadol i'w wneud yn fwy cynaliadwy.
- Datblygu syniadau a dulliau newydd o reoli'r ŵyl.
- Adeiladu partneriaethau cryfach gyda busnesau lleol a rhanddeiliaid.
- Creu dosbarthiad llwyth gwaith mwy cytbwys ymhlith gwirfoddolwyr.
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym am sicrhau pobl y dref nad yw Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dod i ben. Yn ystod ein blwyddyn o seibiant, byddwn yn parhau i drefnu ein digwyddiadau codi arian poblogaidd fel ein cystadleuaeth cyri, ac yn ymrwymo i gefnogi digwyddiadau fel yr arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol - a drefnir gan y Cyngor Tref - a'r farchnad Nadolig a gyd-drefnir gyda Galeri Caernarfon)."
"Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd trwy gydol 2026 i barhau â’r trefniadau hyn ac i ddatblygu ein gweledigaeth newydd, darparu cyfleoedd hyfforddiant, a datblygu sgiliau perthnasol i aelodau."
"Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn dechrau cynllunio ar gyfer gŵyl 2027. Rydym hefyd yn galw ar unigolion sydd â diddordeb i ymuno â ni o’r newydd i gynllunio at 2027. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad."
"Rydym yn ystyried y flwyddyn nesaf fel cyfle i weithio'n agosach gyda busnesau a’r gymuned leol i sicrhau bod ein cymuned yn gallu gwneud y mwyaf o fuddion economaidd yr ŵyl yn 2027 a thu hwnt."
"Hoffem fynegi ein diolch diffuant i bawb sydd wedi cefnogi Gŵyl Fwyd Caernarfon - ein gwirfoddolwyr, noddwyr, busnesau lleol, perfformwyr, stondinwyr, ymwelwyr, ac yn bwysicaf oll, pobl Caernarfon sydd wedi gwneud ein gŵyl mor llwyddiannus."
"Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd yn 2027 gydag egni newydd, gan sicrhau bod Gŵyl Fwyd Caernarfon yn parhau i ddathlu diwylliant bwyd bywiog ein cymuned am flynyddoedd i ddod."