Dirwy i gyn-reolwr am werthu tybaco anghyfreithlon

Thursday, 8 January 2026 11:09

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph

Mae dyn o Gaergybi wedi cael dirwy am werthu tybaco anghyfreithlon am dros flwyddyn.

Roedd Barry Cassidy wedi pledio'n euog i fod ynghlwm â busnes twyllodrus a chuddio neu trosi eiddo troseddol, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd yn cynnwys swyddogion safonau masnach ym Môn.

Clywodd y Llys Ynadon Caernarfon fod gwarant wedi'i gweithredu yn ei gartref ac, yn dilyn cynnal dadansoddiad fforensig o'i ffôn symudol, cafwyd tystiolaeth fod Cassidy wedi bod yn gwerthu tybaco anghyfreithlon rhwng Mawrth 2023 a Mehefin 2024.

Cyfrifwyd bod ei weithredoedd wedi arwain at golled ariannol o dros £10,000 gan nad oedd tollau wedi'u talu ar y tybaco ac roedd busnesau cyfreithlon wedi colli busnes hefyd.

Mewn adroddiad cyn-dedfrydu gan y Gwasanaeth Prawf, datgelwyd bod Cassidy wedi cael ei gyflogi fel rheolwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau am dros 30 mlynedd.

Er iddo gyfaddef ei fod wedi gwneud elw ariannol, honnodd Cassidy nad oedd y swm yn un sylweddol ac roedd yn mynnu mai dim ond £10 o elw oedd o'n ei wneud ar bob pecyn o 200 o sigaréts.

Fodd bynnag, rhybuddiodd y Gwasanaeth Prawf eu bod yn credu fod Mr Cassidy "yn siŵr o fod yn gwneud mwy o elw na dim ond rhyw £10 yma ac acw."

Dywedodd Mr Cassidy ei fod yn edifar yr hyn a wnaeth a honnodd nad oedd o'n sylweddoli beth oedd oblygiadau ehangach ei weithredoedd a bod busnesau cyfreithlon wedi cael eu heffeithio a cholli incwm o'r herwydd.

Cafodd ei ddedfrydu i 150 awr o waith di-dâl o dan orchymyn cymunedol 12 mis, a'i orchymyn i dalu cyfanswm o £2,541.07 (sef £2,427.07 mewn costau a gordal dioddefwyr o £114).

Yn dilyn y ddedfrydu ddydd Mawrth, dyweddod y Cynghorydd Nicola Roberts, sy'n dal y portffolio gwarchod y cyhoedd Cyngor Ynys Môn: "Mae'r achos hwn yn dangos yn glir pa mor effeithiol yw cydweithio gyda'n partneriaid yn nhîm tybaco anghyfreithlon rhanbarthol Cymru, Ymgyrch CeCe."

"Rydw i'n ddiolchgar hefyd i'n swyddogion safonau masnach am sicrhau fod y gwerthiant tybaco anghyfreithlon yma wedi cael ei ddarganfod a bod Barry Anthony Cassidy wedi cael ei ddwyn i gyfri am ei droseddau."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'