Mae cwmni trydanol wedi derbyn dirwy o £20,000 ar ôl i waith adael gorsaf betrol mewn cyflwr peryglus.
Fe wnaeth Llys Ynadon Caernarfon orchymyn Derby Firelec Ltd o Bolton i dalu'r ddirwy, ynghyd â gordal dioddefwyr o £2,000.
Cafodd cyfarwyddwr y cwmni, Mahammadrafik Patel, 65, hefyd o Bolton, a oedd yn gyfrifol am wneud y gwaith yn Garej Dyffryn, Fali, er nad oedd ganddo'r cymwysterau priodol, ei orchymyn i gyflawni 120 awr o wasanaeth cymunedol di-dâl a thalu £778.53 mewn costau a gordal dioddefwyr.
Nid oedd y gosodiad trydanol wedi'i ddaearu ac roedd y safle'n anniogel ac, wrth ddedfrydu, rhybuddiodd yr Ynadon y gallai canlyniadau'r gweithredoedd 'fod yn drychinebus'.
Cafodd yr achos ei ddwyn gan adran Safonau Masnach Ynys Môn, a chyflwynodd Derby Firelec Ltd a Mr Patel ble dieuog ym mis Hydref 2025 mewn perthynas â nifer o gyhuddiadau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Clywodd y llys fod Mr Patel wedi gwneud gwaith ar yr orsaf betrol ar 31 Ionawr 2024 a 12 Chwefror 2024, a'i fod wedi cyflwyno adroddiad gosodiad trydanol oedd yn datgan fod y gwaith trydanol ar y safle yn ddiogel, er nad oedd hynny'n wir a bod angen rhoi sylw ar unwaith i ddiffygion
Derbyniodd adran Safonau Masnach Ynys Môn, sef yr awdurdod gorfodaeth petrolewm, gopi o'r adroddiad ar 13 Chwefror 2024, a chodwyd amheuon am gymhwysedd y peiriannydd trydanol oedd wedi cwblhau'r adroddiad gan ei fod yn cynnwys nifer o wallau, yn ogystal ag adrannau anghyflawn.
Daeth yn amlwg yn fuan iawn nad oedd Mr Patel, oedd yn masnachu o dan yr enw Derby Firelec Ltd, wedi cael ei gymeradwyo o dan ei aelodaeth o Gymdeithas y Contractwyr Trydanol (ECA) i wneud unrhyw fath o waith trydanol mewn ardal beryglus o'r orsaf betrol, ac nid oedd ganddo gymhwysedd Compex 7 ac 8, er bod ei fan a'i waith papur yn dangos hynny.
Honnodd Mr Patel a Derby Firelec Ltd eu bod wedi hysbysu perchnogion yr orsaf betrol fod ei gymhwysedd wedi dod i ben ac nad oedd wedi derbyn canlyniadau ei brawf diwethaf eto, ond ni lwyddodd i basio'r prawf hwnnw.
Er hynny, ac er ei fod yn ymwybodol o'r peryglon, aeth ymlaen i gyflwyno adroddiad er nad oedd y broblem daearu trydan ar y safle wedi cael ei chywiro. Dywedodd Mr Patel ei fod yn difaru ei weithredoedd a'i fod yn derbyn iddo wneud camgymeriad.
Dyweddod y Cynghorydd Nicola Roberts, sy'n deilio portffolio gwarchod y cyhoedd ar Cyngor Môn: "Roedd hwn yn achos difrifol iawn ac rydw i'n ddiolchgar i'n tîm safonau masnach am sicrhau fod Derby Firelec Ltd a Mr Patel wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell."
"Rydw i'n gobeithio y bydd y ddirwy sylweddol hon yn anfon neges glir na fydd arferion gwaith sy'n is na'r safon ddisgwyliedig ac yn anniogel yn cael eu goddef."
"Hoffwn annog busnesau hefyd i sicrhau bob amser fod gweithwyr sy'n gwneud gwaith ar eu rhan yn meddu ar y cymwysterau a'r tystysgrifau angenrheidiol i wneud y gwaith."
Mae Mr Patel bellach wedi llwyddo yn y profion ac mae o'n gymwys yn awr i wneud y math yma o waith.


Chwe dyn yn y llys ar gyhuddiadau cyffuriau
Bethesda: carcharu dyn am wrthdrawiad bwriadol
Byrgleriaethau yn Amlwch: arestio dyn
Carcharu dyn o Fangor am ymosodiad treisgar
Cyfarwyddwyr iechyd yn ymuno â chyfarfodydd Cyngor Môn