Dwy ddynes wedi marw yn Nant Gwynant

Thursday, 12 June 2025 22:54

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Dylan Moore)

Mae dwy ddynes wedi marw yn dilyn digwyddiad ger Nant Gwynant yn Eryri.

Cafodd yr gwasnaethau brys eu galw tua 9.30yh nos Fercher yn dilyn hysbysiad bod un ddynes wedi cael ei thynnu allan o’r dŵr, a bod dynes arall yn y dŵr yn y pyllau ger Llwybr Watkin.

Mi gafodd yr ail ddynes ei thynnu allan o’r dŵr, ond cyhoeddwyd bod y ddwy fenyw wedi marw yn y fan a'r lle.

Mi gafodd tîm achub mynydd Llanberis eu galw i'r ardal, ynghyd â yr Ambiwlans Awyr Cymru, yr hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon ac Heddlu Gogledd Cymru.

Mae ymchwiliad i amgylchiadau'r marwolaethau ar y gweill ac mae'r cwrner lleol ar gyfer Gogledd Orwellin Cymru wedi cael gwybod.

Dwyeddod y Ditectif Brif Arolygydd Andy Gibson o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau dwysaf gyda theuluoedd a ffrindiau’r ddwy."

"Rydym yn apelio am unrhwy un a oedd yn cerdded yn ardal Llwybr Watkin rhwng 6pm a 9pm neithiwr i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy’r wefan neu drwy ffonio 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 25000480868."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Suliau'r Soffa

    2:00pm - 4:00pm

    Ymlaciwch ar brynhawn Sul yng nghwmni Llion ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'