Mae dyn o Fae Cemaes wedi pledio'n euog i ddelio cyffuriau yn dilyn cyfres o gyrchoedd yng Ngogledd Ynys Môn.
Cafodd dau ddyn eu cyhuddo o droseddau cyffuriau amrywiol yn dilyn tair gwarant ym Mae Cemaes ac Amlwch ar 22 Rhagfyr.
Mi gafodd Jordan Lee Jones, 29 oed, o Faw Cemaes, ei arestio ac yna'i gyhuddo o feddiant efo'r bwriad o gyflenwi cocên, meddu ar eiddo troseddol a meddu ar arf ymosodol mewn lle preifat.
Mi ymddangosodd yn Llys Ynadon Caernarfon ar ddydd Mawrth 23 Rhagfyr, lle cyfaddefodd y troseddau. Mi gafodd ei remandio yn y carchar, ac mi fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 16 Ionawr 2026.
Mi gafodd Christopher William McGrath, 44, o Graig y Don, Amlwch, ei arestio ac yna'i gyhuddo o fod yn ymwneud â chyflenwi cocên, yn ogystal â meddu ar ganabis.
Mi ymddangosodd yn Llys Ynadon Caernarfon ar ddydd Mawrth 23 Rhagfyr, ac mi gafodd ei remandio er mwyn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 26 Ionawr 2026.
Dywedodd Rhingyll Dylan Thomas o'r tîm plismona cymdogaethau yn Heddlu Gogledd Cymru: "Mi fyddwn ni'n parhau i ymchwilio unrhyw wybodaeth yn drwyadl sy'n cael ei riportio i ni ynglŷn â chyflenwi cyffuriau ar Ynys Môn."
"Dwi’n parhau i annog unrhyw un sydd efo pryderon ynglŷn â chyffuriau neu arfau yn eu hardal leol i gysylltu efo'r heddlu neu'n ddienw drwy Crimestoppers."


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi