Mae dyn 39 oed o Fangor wedi pledio'n euog i ymosod ar ddynes ar Ynys Môn dros y penwythnos.
Cafodd Jamie Cowell ei arestio a'i gyhuddo o nifer o droseddau yn erbyn dioddefwr benywaidd ddydd Sadwrn diwethaf.
Yn Llys Ynadon Llandudno fore Llun, pleidiodd Cowell yn euog hefyd o ddifrod troseddol a thorri amodau gorchymyn atal.
Mi gafodd Cowell, o Stryd Fawr, Bangor, ei gadw yn y dalffa ac mi wnaiff ymddangos ar gyfer dedfryd yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Gwener 5 Rhagfyr.


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'