
Mae dyn 25 oed o Wynedd wedi marw ar ôl iddo ddisgyn o falconi gwesty ym Malta.
Cafodd yr heddlu lleol eu galw i ardal Triq Spinola yn nhref St. Julien's tua 4.15yb bore Gwener.
Er gwaethaf ymdrechion tîm meddygol cyhoeddwyd bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae ynad lleol wedi cael gwybod am y farwolaeth ac mae nifer o arbenigwyr wedi cael eu penodi i gynorthwyo yn yr ymchwiliad, yn ôl heddlu Malta.
Mae AS Plaid Cymru dros Arfon wedi disgrifio'r farwolaeth fel "wirioneddol erchyll".
Dyweddod Sian Gwenllian: "Mae'n gwbl amhosibl dirnad poen y teulu. Rydw innau, ynghyd â gweddill pobl Gwynedd yn meddwl amdanynt yn eu galar".
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.