Mae dyn wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan fan ar ffordd osgoi Caernarfon.
Bu farw'r dyn 64 oed yn y fan a'r lle yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A487 ger Bontnewydd tua 8.30yh nos Sul.
Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod, yn ogystal â chrwner lleol Gogledd Orllewin Cymru.
Bu'r ffordd ar gau am gyfnod rhwng Bontnewydd a chylchfan Llanwnda ond mae wedi ailagor ers hynny.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Rhingyll Katie Davies o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn ar yr amser anodd hwn."
"Rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau camera dangosfwrdd, i gysylltu gyda'r heddlu."
"Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A487 cyn 20.30 neithiwr a welodd ddyn yn cerdded ar hyd y ffordd osgoi i gysylltu â ni."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ewch i'w gwefan, gan dyfynnu'r rhif cyfeirnod C174462.


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'