Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A5

Sunday, 1 June 2025 13:00

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A5 ger Caergybi.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd yn Y Cob rhwng 11yh nos Sadwrn a 12.14 bore Sul.

Cafodd y ddynes ei chludo gan y gwasanaethau brys i'r ysbyty, lle bu farw.

Mae ei pherthnasau agosaf wedi cael gwybod.

Dwyeddod y Rhingyll Leigh McCann o'r Uned Troseddau ar y Ffyrdd yn Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal ar y pryd, unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd Citroen C3 du yn cael ei yrru yn yr ardal rhwng yr amseroedd hyn, i gysylltu â ni."

"Rwyf hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â theledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd i gysylltu. Mae ein meddyliau gyda theulu'r ddynes ar yr adeg anodd iawn yma."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod C080296.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'