Elin a’i ffrindiau ar llwyfan ‘Steddfod

Sunday, 3 August 2025 10:26

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mwynhawyd noson amrywiol o gerddoriaeth gan dyrfaoedd mawr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Wrecsam nos Sadwrn.

Elin Fflur a Diffiniad oedd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes, tra bod Bob Delyn a'r Ebillion yn chwarae i gynulleidfa sylweddol yn Nhŷ Gwerin.

Yn y cyfamser, mwynhaodd y gynulleidfa yn y Pafiliwn sioe gerdd newydd gomisiynwyd gan yr eisteddfod.

Ysgrifennwydd Y Stand gan Manon Steffan Ros a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Osian Huw Williams.

Roedd y gynulleidfa wedi cael eu swyno'n gynharach gan set gan Elin Fflur a'i band.

Canodd ganeuon hen a newydd gan gynnwys "Harbwr Diogel". Wedi'i hysgrifennu gan Arfon Wyn, enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002.

Sefydlwyd Diffiniad gan grŵp o ffrindiau, yn bennaf o ardal yr Wyddgrug, i berfformio cerddoriaeth ddawns yn y Gymraeg.

Ymunodd Bethan Richards, o Rydaman, fel cantores, ac mae ei llais cyfoethog, dwfn yn codi rhai o'u hanthemau mwyaf cofiadwy i'r uchelfannau.

Cafodd caneuon fel Hapus, Hwyr Tan y Bore a'u fersiwn o glasur Caryl Parry Jones, Calon, eu cyd-ganu gyda'r grwp gan y dorf.

Mae Bob Delyn a'r Ebillion yn cael eu harwain gan y prifardd Twm Morys. Mae eu cerddoriaeth yn cyfuno amrywiaeth eclectig o ddylanwadau ac offerynnau â synau gwerin mwy traddodiadol Cymru.

Daeth eu set i ben gyda chân Twm Morys, Trên Bach y Sgwarnogod, a ysgogodd dwsinau o'r gynulleidfa i ymuno â chonga fawr o amgylch y gynulleidfa dan arweiniad y sacsoffonyddion Edwin Humphreys ac Einion Gruffudd.

Mae ‘Y Stand’ yn sioe newydd sbon am bêl-droed, am ennill a cholli, ac am y cysylltiad arbennig sy'n dod o gefnogi tîm.

Cafodd y Pafiliwn ei drawsnewid yn stadiwm pêl-droed, yn fywiog gyda sain, lliw ac egni'r dorf.

Adroddir y stori drwy lygaid côr yr eisteddfod, sy'n cynnwys 200 o aelodau, a phum prif gymeriad.

Mae Clem (Dyfed Thomas) yn actor sy'n gyn-chwaraewr i Wrecsam, yn dychwelyd i'r llwyfan gyda'i hanes personol a'i gariad dwfn at y Clwb, a Grace (Cadi Glwys), merch ifanc 14-oed sy'n breuddwydio am chwarae pêl-droed.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi cyfle i nifer fawr o grwpiau ac artistiaid unigol yn ystod yr ŵyl wythnos o hyd.

Ymhilth y rhai eraill a fydd yn cymryd rhan mae'r canwr gwerin profiadol Dafydd Iwan, y bandiau roc Anweledig o Flaenau Ffestiniog a Fleur de Lys o Fon a'r band gwerin blaenllaw Bwncath.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Sport with Ryan McKean

    2:00pm - 5:00pm

    Ryan McKean keeps you up to date with all the latest football scores across North Wales

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'