Eryri i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2028

Thursday, 11 September 2025 08:00

By Ystafell Newyddion MônFM

Urdd Gobaith Cymru

Bydd rhanbarth Eryri yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2028.

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau y bydd gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop yn dychwelyd i'r ardal am y tro cyntaf ers 2012.

Mae'r trefnwyr yn y broses o drafod safleoedd posib ar gyfer maes yr ŵyl gyda Chyngor Gwynedd.

Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Pleser yw cael cefnogaeth Cyngor Gwynedd i gynnal yr Eisteddfod yn 2028."

"Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw'r ffaith ei bod hi'n teithio, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda'r gymuned yn ogystal â'r Cyngor dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal."

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â rhanbarth Eryri oedd yn Glynllifon ger Caernarfon yn 2012, pan gafodd yr ŵyl ei tharo gan broblemau traffig difrifol.



Ym mis Mai eleni, cafwyd gwahoddiad ffurfiol gan Gyngor Gwynedd i lwyfannu’r eisteddfod yn y sir am y tro cyntaf ers gŵyl 2014 yn y Bala.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar gyfer gwirfoddolwyr a chefnogwyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ar nos Fercher 24 Medi.

Mae'r Urdd yn annog pawb sydd eisiau mynychu'r cyfarfod cyhoeddus, ymuno â phwyllgor neu enwebu swyddogion ar gyfer y Pwyllgor Gwaith i lenwi'r ffurflen ar eu gwefan.

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, arweinydd Cyngor Gwynedd: "Rwyf yn hynod falch fod Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod cyn yr haf wedi cytuno i wahodd yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd yn 2028."

"Bydd yn bleser gallu cynnig llety i'r wŷl arbennig ac unigryw yma sy'n dathlu creadigrwydd, dawn ac ymroddiad ein pobl ifanc yn ogystal â'r diwylliant Cymraeg. Rwy'n edrych ymlaen yn arw ac yn croesawu cydweithrediad efo'r Urdd sy'n gwneud gwaith arbennig!"

Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, sydd bellach yn denu dros 100,000 o gofrestriadau i gystadlu ac yn cyfrannu miliynau i'r economi leol ble caiff ei chynnal.

Wedi Eisteddfod Dur a Môr yng Nghastell-nedd Port Talbot eleni, mae'r paratoadau wedi hen ddechrau ar Ynys Môn, fydd yn cynnal yr Eisteddfod flwyddyn nesaf, ynghyd â Chasnewydd, rhanbarth Gwent yn 2027.

Mae trefnwyr wedi datgelu amserlen newydd ar gyfer cystadlaethau fel rhan o estyniad i ŵyl saith diwrnod ym maes sioe Mona ger Gwalchmai yn 2026.

Er mwyn dathlu dyfodiad yr ŵyl i Fôn, bydd Gŵyl Groeso yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 20 Medi. Yn dilyn gorymdaith trwy dref Llangefni, cynhelir prynhawn o hwyl a gig ym mhafiliwn Cae Sioe Môn, gyda pherfformiadau gan Celt, Fleur de Lys a Cordia.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The Connections Show

    8:00pm - 10:00pm

    Punk to funk... and everything in between....

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'