Ffair dreftadaeth Ynys Cybi yn dychwelyd

Tuesday, 17 June 2025 00:55

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Bydd amrywiaeth o weithgareddau gwledig, fel sgiliau coetir a gwehyddu glaswellt y tywod traddodiadol, yn cael eu cynnig i ddathlu trydedd Ffair Dreftadaeth Ynys Cybi.

Cynhelir y digwyddiad am ddim ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi ddydd Sadwrn 5 Gorfennaf rhwng 10yb a 4yp.

Bydd gweithgareddau eraill hefyd ar gael crefftau cefn gwlad, gweithgareddau archeolegol, ail berfformiad canoloesol, arddangosfeydd adeiladu cwrwgl a rhwyfo, gwneud modelau clai a phaentio wyneb, saethyddiaeth ac stondinau gwybodaeth.

Bydd nifer o deithiau cerdd â thywyswr hefyd yn cael eu cynnal yn ystod y dydd, fel bo modd i oedolion a phlant ddysgu am ddaeareg, hanes a bywyd gwyllt Ynys Cybi, gwirfoddoli mewn sesiwn casglu sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus a dysgu sut i chwilota am blanhigion gwyllt.

Bydd gweithdai ac arddangosfeydd sgiliau codi waliau sych ar gael y gall ymwelwyr gymryd rhan ynddynt, a bydd hyn yn tynnu sylw at brosiect ‘Gwarchod ein Ffiniau Traddodiadol’ y Bartneriaeth Dirwedd.

Mae’r prosiect yn gweithio gydag ysgolion uwchradd lleol a gwirfoddolwyr i atgyweirio ac adfer y Drylliau, sef system o gaeau unigryw a godwyd gan chwarelwyr, ac sy’n rhinwedd heb ei fath o dirwedd treftadaeth Mynydd Twr.

Dywedodd Paul Edwards, swyddog prosiect cymunedol partneriaeth tirwedd Ynys Cybi: "Gweledigaeth y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth am hanes, tirwedd a natur ddiddorol ac unigryw Ynys Cybi, gan weithio gyda chymunedau, ysgolion ac ymwelwyr lleol."

"Drwy hyrwyddo dealltwriaeth well o dreftadaeth yr ardal, rydym yn gobeithio meithrin ymdeimlad o le fydd yn sicrhau bod pobl yn dathlu asedau hanesyddol ac yn eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."

"Rydym yn ddiolchgar i’n holl bartneriaid fydd yn darparu gweithgareddau diddorol a difyr ar gyfer pawb yn ystod y dydd.”

Mae Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac yn gweithio gyda chymunedau lleol i gynnig gweithgareddau sy’n adnabod, yn archwilio, gwarchod a rhannu treftadaeth ac amgylchedd arbennig a difyr Ynys Cybi.

Mae 19 prosiect y bartneriaeth yn cynnwys Cael Mynediad at ein Treftadaeth, Sgiliau Treftadaeth, Dysgu Lleol, Darganfod ein Treftadaeth Gladdedig, Rheoli Rhywogaethau Ymledol, Gwella ein Rhostir a Chefnogi Rheolaeth Gynaliadwy, prosiectau cymunedol Ynys Cybi a Ni a Mwynhau ein Harfordir yn Gyfrifol.

Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans, deilydd portffolio twristiaeth yng Nghyngor Ynys Mon: "Rwy’n falch o weld bod Ffair Dreftadaeth Ynys Cybi’n dychwelyd am y drydedd tro."

"Mae’r digwyddiad hwn yn arddangos y gwaith arbennig sy’n mynd rhagddo drwy Bartneriaeth Tirwedd Ynys Cybi, er mwyn cyflawni rhaglenni adfywio, cefn gwlad a chyrchfan y cyngor."

"Mae hefyd yn gyfle i drigolion ac ymwelwyr ddysgu mwy am yr ardal leol a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac arddangosfeydd diddorol.”

Bydd maes parcio talu ac arddangos ar gael, gyda maes parcio ychwanegol am ddim wedi’i leoli yn y cae drws nesaf i Ffordd y Morglawdd.

 

Rhaid cadw eich lle ar gyfer rhai gweithgareddau - i archebu eich lle, ewch i Eventbrite neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch partneriaethtirlunynyscybi@ynysmon.llyw.cymru

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'