Daeth aelodau Fforwm Iaith Ynys Môn at ei gilydd yn ddiweddar i drafod pwnc sy'n ganolbwynt i'w flaenoriaethau, sef pobl ifanc.
Mewn cyfarfod yn Llangefni, cafwyd cyflwyniadau gan wasanaeth dysgu Cyngor Sir Ynys Môn a Phrifysgol Bangor am y camau y maen nhw'n eu cymryd i feithrin siaradwyr Cymraeg lleol y dyfodol.
Derbyniodd aelodau'r fforwm ddata am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a chlywed am lwyddiant ysgolion lleol, fel Ysgol David Hughes, sydd wedi derbyn achrediad Siarter Iaith Gwynedd a Môn.
Dysgodd yr aelodau hefyd am y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud mewn canolfannau iaith, i drochi disgyblion newydd i'r ardal yn y Gymraeg dros raglen 12 wythnos.
Rhannwyd negeseuon positif am gynlluniau Prifysgol Bangor i gyflwyno'r Gymraeg i ddarpar feddygon a sut mae astudio trwy'r Gymraeg wedi agor drysau i fyfyrwyr mewn sawl maes.
Dyweddod arweinydd Cyngor Môn ac aeold o'r fforwm, Gary Pritchard: "Mae sicrhau bod pob un o bobl ifanc Ynys Môn yn cael y cyfle i ddatblygu'n siaradwyr Cymraeg hyderus yn un o'n blaenoriaethau."
"Fel fforwm rydym yn awyddus i gyfleu i'n pobl ifanc pa mor werthfawr yw eu sgiliau Cymraeg, y drysau a'r cyfleoedd cyflogaeth lleol sy'n agored iddynt drwy'r iaith."
Aelod arall o'r fforwm sy'n croesawu clywed am gynlluniau i ddatblygu sgiliau Cymraeg pobl ifanc yr ardal yw Natalie Lloyd Jones, swyddog iaith Gymraeg gan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Dywedodd Natalie: "Mae'n bwysig bod gan y gwasanaeth staff sy'n siarad Cymraeg er mwyn i ni gyflawni ein hymrwymiad at gynnig gwasanaeth brys dwyieithog."
"Ond, mae recriwtio gweithwyr sydd â'r sgiliau 'da ni eu hangen yn gallu bod yn heriol. Mae'n dda gwybod bod ein hysgolion, colegau addysg bellach, a'r brifysgol yn gweithio'n strategol i ddatblygu gweithlu o siaradwyr Cymraeg hyderus ar gyfer y dyfodol."
Nod y fforwm yw dod a chyrff addysg, diwylliant, gwasanaethau cyhoeddus, a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i rannu syniadau, cynllunio prosiectau, a chydweithio ar fentrau sy'n cryfhau defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned.
Mae aelodau eraill yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mudiad Meithrin, Yr Urdd, Heddlu Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin a llawer mwy.
Gellir cysylltu â'r fforwm drwy e-bostio cymraeg@ynysmon.llyw.cymru neu ewch i gwefan Cyngor Ynys Môn neu dudalen Facebook y cyngor.

                                                    
                                                                                                
                                                                                                
    
    
            Porth Llechog: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad
        
            Dim Gŵyl Cefni yn 2026
        
            Llangefni: arestio llanc wedi honiad o hiliaeth
        
            Cau ffyrdd ar gyfer Ffair Borth
        
            Ailagor Pont Menai yn llawn ar dydd Gwener