
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd pobl i gynnig tir a allai fod yn addas ar gyfer ei ddatblygu dros yr 15 mlynedd nesaf.
Yn ôl y cyngor sir, dyma’r garreg filltir ddiweddaraf yn y daith i greu Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl) i’r ynys erbyn 2028.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol baratoi cynllun datblygu lleol er mwyn penderfynu pa ddatblygiadau fydd yn derbyn caniatâd cynllunio.
Ar ôl ei fabwysiadu, bydd Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn yn darparu strategaeth datblygu defnydd tir sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad cynaliadwy hyd at 2039.
Ei nod fydd:
- darparu canllawiau ar ddatblygu tai, mannau adwerthu, cyflogaeth a defnyddiau eraill
- cynnwys polisïau fydd yn cynorthwyo penderfyniadau'r Awdurdod Cynllunio Lleol wrth ystyried ceisiadau cynllunio
- gwarchod ardaloedd er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig yn cael ei chynnal a’i chyfoethogi
Dywedodd y deilydd portffolio cynllunio, y Cynghorydd Nicola Roberts: "Bydd ein cynllun datblygu lleol newydd yn ganllaw ar gyfer datblygiad tir tan 2039 felly ni ellir gorbwysleisio ei bwysigrwydd."
“Bydd y cynllun datblygu lleol newydd yn berthnasol i ardal Ynys Môn ac yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion tai, cyflogaeth ac anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol hyd at 2039."
Bydd gan nifer o drigolion, grwpiau a sefydliadau ddiddordeb mawr yn y materion yn ymwneud â datblygiad y cynllun...newydd.”
Bydd hefyd yn rhaid i’r cyngor sir baratoi fersiwn ‘adnau’ o’r cynllun ar gyfer ei ystyried gan arolygydd annibynnol a benodir gan Lywodraeth Cymru. Bydd pobl yn parhau i gadw eu hawl o allu rhoi barn ffurfiol a gwrthwynebiadau am dir datblygu arfaethedig yn ystod cyfnod adnau’r cynllun.
Eglurodd pennaeth datblygu economaidd Cyngor Môn, Christian Branch: "Rydym yn gofyn i’r cyhoedd, cymunedau lleol a thirfeddianwyr gyflwyno safleoedd ymgeisiol posib a allai fod yn addas ar gyfer eu datblygu neu eu gwarchod, fel rhan o’r gwaith o baratoi at greu Cynllun Datblygu Lleol newydd Ynys Môn."
“Mae angen cymaint o wybodaeth a phosib arnom am y llecynnau o dir a allai gael eu hystyried yn addas. Fe ddylai trigolion sy’n dymuno cael tir wedi’i osod ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol lenwi’r ffurflen ar-lein a’i dychwelyd i ni erbyn Mehefin 23ain, 2025."
"Bydd y wybodaeth yma’n ein helpu ni i werthuso’r tir a’i addasrwydd o dan y cynllun newydd ac i symud ymlaen."
Nid yw’r ffaith bod y tir yn ymddangos ar y ‘Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol’ yn golygu bod dyletswydd ar y cyngor sir i gynnwys y tir hwnnw yn y cynllun terfynol ond bydd yn cynorthwyo’r gwaith o wneud dewisiadau gwybodus am ddefnydd tir yn y dyfodol.
Mae’r ffurflen ar-lein yn galluogi cynigwyr safleoedd i gynhyrchu a chyflwyno map, cael gwybodaeth am unrhyw gyfyngiadau, gweld y nodiadau canllaw cyflwyno safleoedd a llwytho dogfennau perthnasol.
Bydd copïau papur o’r ffurflen hefyd ar gael i’w casglu o swyddfeydd y cyngor sir, Canolfan Fusnes Ynys Môn yn Llangefni ac o lyfrgelloedd yr Ynys. Gall swyddogion perthnasol gynorthwyo gyda’r ffurflen os oes angen – ond dylid gwneud apwyntiad o flaen llaw.