
Mae Cyngor Môn yn galw ar drigolion ac ymwelwyr i gefnogi masnachwyr ym Mhorthaethwy yn dilyn ailagor rhannol Pont Menai.
Ers 7yb bore Gwener, mae'r bont grog wedi'i hailagor i geir, beiciau modur, beicwyr a cherddwyr, ar ôl cau i bob traffig am chwe diwrnod.
Ond bydd cyfyngiadau pwysau yn parhau - a bydd y bont yn cau dros nos tra bod gwaith brys yn parhau i ailosod bolltau ar y trawstiau.
Yn ôl y cyngor sir, mae stryd fawr Porthaethwy yn wynebu "cyfnod anodd arall", yn dilyn ail gau'r bont mewn tair blynedd.
Ond mae'r dref "yn parhau ar agor" ac mae pob punt sy'n cael ei gwario'n lleol "yn helpu i wneud yn siŵr bod Porthaethwy'n parhau i fod yn dref lewyrchus, cadarn a llawn cymeriad."
Dyweddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Mae Porthaethwy wedi cael amser caled yn sgil yr ansicrwydd o ran y bont a'r aflonyddwch i fusnesau. Mae'r dref angen ein cefnogaeth ni ac mae busnesau'r dref ar agor."
"Mae'n rhaid i ni gefnogi'r busnesau lleol. Byddai'n braf gweld pobl Môn yn dod at ei gilydd i'w cefnogi. Os ydych yn meddwl hel eich traed y penwythnos hwn, pan nad ewch chi draw i Borthaethwy am goffi, cinio neu i wneud dipyn o siopa?"
"Fe all pethau bach fel hyn wneud gwahaniaeth mawr i swyddi lleol a bywoliaeth pobl."
Mae'r cyngor yn annog ymwelwyr i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith a dilynwch yr arwyddion stryd fel mae mwy o draffig ar adegau prysur pan mae pobl yn mynd i'r gwaith neu'n dod adref.
Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am gefnogaeth frys i fusnesau lleol sydd wedi’u heffeithio gan y tarfu parhaus.
Dyweddod AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Mae'n newyddion da bod Pont y Borth yn ailagor yn rhannol...ac rwy'n annog pawb i ddilyn y cyfyngiadau sy'n parhau mewn grym."
"Er hynny, bydd yr effaith sylweddol ar lawer o fusnesau lleol, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar fasnach gyda'r nos yn parhau."
Cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r ailagor rhannol, dyweddod Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi: "Mae busnesau ym Mhorthaethwy a’r pentrefi cyfagos bellach wedi wynebu pum diwrnod o amharu difrifol, ac mae sawl cwestiwn yn dal heb eu hateb ynghylch goruchwyliaeth ac archwiliadau Pont y Borth."
Tra bo'r bont ar agor, dim ond cerbydau hyd at derfyn pwysau o 3 tunnell fydd yn gallu ei defnyddio, a bydd mesurau rheoli traffig ac un llif o draffig oddi ar yr ynys yn y bore (7yb-1yp) ac i'r ynys yn y prynhawn (1yp-7yh).
Bydd y bont ar gau yn llwyr i gerbydau dros nos, rhwng 7yh a 7yb bob nos. Bydd cerddwyr a beicwyr, fodd bynnag, yn gallu defnyddio'r bont dros nos.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio cyn gynted â phosibl i gael gwared ar y terfyn 3 thunnell a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar amserlen amcangyfrifedig pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael."
"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth i ni geisio datrys y mater brys hwn."