
Mae menter gymunedol wedi dod i gytundeb mewn egwyddor i feddiannu neuadd hanesyddol.
Mae menter gymunedol wedi dod i gytundeb mewn egwyddor i feddiannu neuadd hanesyddol.
Bu Menter Felinheli mewn trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru ers nifer o fisoedd ynglyn a Neuadd yr Eglwys yn y pentref.
Agorwyd yr adeilad yn 1935, ond bu ar gau ers rhai blynyddoedd bellach a bydd angen buddsoddiad sylweddol cyn y gellir ei ddefnyddio unwaith eto.
Rwan mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cytuno mewn egwyddor i drosgwlyddo’r adeilad i’r fenter ac mae trafodaethau wedi dechrau ar fanylion lês tymor-hir rhwng y ddau gorff.
Cafodd Menter Felinheli ei sefydlu yn haf 2023 a codwyd £150,000 yn y gymuned mewn ymgais i brynu marina’r pentref.
Er na lwyddodd yr ymgyrch honno, mae cyfranddalwyr wedi gadael tua £80,000 yng nghoffrau y fenter, arian a fydd rwan yn ganolog i ddenu grantiau i adfer yr adeilad.
Dywedodd Gwyn Roberts ar ran Menter Felinheli: “Mae’n diolch ni yn fawr iawn i’r bobol sydd wedi cadw eu harian yn y fenter.
“Heb eu caredigrwydd a’i hamynedd nhw fydden ni ddim yn y sefyllfa yma rwan, lle ryden ni’n mawr obeithio y byddwn ni’n gallu adfer adeilad sy’n bwysig i’r pentref er budd pawb yma.
“Fe fydden ni wedi hoffi rhyddhau mwy o wybodaeth cyn hyn ond oherwydd natur y trafodaethau doedd hynny ddim yn bosib’ tan rwan. Diolch yn fawr i bob un ohonyn nhw.”
Fe fydd y Fenter rwan yn bwrw ymlaen gydag arolygon o’r adeilad i ddarganfod union faint a natur y gwaith atgyweirio sydd ei angen ac yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r Eglwys yng Nghymru i gytuno’r telerau terfynol.
Dywedodd y tad Dylan Williams o’r Eglwys yng Nghymru: “Ychydig iawn o ddefnydd mae’r Eglwys wedi ei wneud o’r adeilad yma ers sbel bellach ac ryden ni’n falch i gael y cyfle i weithio hefo’r gymuned i’w helpu nhw allu ei ddefnyddio unwaith eto.
“Mae tipyn mwy o waith i’w wneud cyn y gallwn ddod i gytundeb terfynol, ond mae’r Eglwys a Menter Felinheli yn rhannu gweledigaeth ar gyfer yr adeilad.”
Gobaith Menter Felinheli hefyd yw, yn ogystal a chreu man i grwpiau a chlybiau lleol gyfarfod, y gellir creu mwy o lefydd parcio oddi amgylch yr adeilad mewn pentref ble mae mannau o’r fath yn brin iawn.
Ond mae nhw hefyd yn chwilio am syniadau gan bobol y pentref am be ellir wneud gyda’r adeilad a fu ar un adeg yn ganolfan gymunedol i bob math o weithgareddau.
Dywedodd Gwyn Roberts: “Fe fu Neuadd yr Eglwys yn ganolbwynt i weithgareddau cymunedol yma am ddegawdau.
“Dwi’n cofio pethau fel dawsnfeydd a chyngherddau ‘dolig yn digwydd yno erstalwm, ac yn fwy diweddar roedd yn ganolfan i waith llwyddiannus iawn y Felin Gylchu, oedd yn ailgylchu pob math o bethau a chodi lot o bres i achosion da.
“Gofod ar gyfer y pentre’ fuodd Neuadd yr Eglwys erioed, a gobeithio mai dyna’n union fydd o i’r dyfodol - adeilad cynnes, cyfforddus, croesawgar, cyfoes sy’n diwallu anghenion pobol Y Felinheli.
“Ryden ni eisioes wedi cynnal trafodaethau gyda’r grwpiau oedd yn cynnal gweithgareddau yno ddiwethaf, ac mae’n galonogol ei bod nhw’n gefnogol.
“Ond be am weddill ein cyfranddalwyr a phobol y pentref? Be fydden nhw’n hoffi wneud hefo’r adeilad? Pa weithgareddau fydden nhw isho’i cynnal yno? Be allwn ni wneud i gael y budd mwyaf o’r lle?
“Fe fyddwn ni’n cynnal cyfarfod cyhoeddus yn fuan i glywed eu syniadau nhw.”
Fe fydd cyfle hefyd i bobl gyflwyno eu syniadau ynglyn a pa weithgareddau yr hoffen nhw weld yn yr adeilad wedi iddo gael ei adnewyddu ar stondin Cyngor Cymuned Y Felinheli yng ngharnifal y pentref ddydd Sadwrn yma (5 Gorffennaf).