Mae'r heddlu wedi gosod gorchymyn cau ar dŷ ym Mangor yn dilyn pryderon am weithgarwch cyffuriau.
Cyhoeddwyd hysbysiad gan swyddogion cymdogaeth yn ardal Hirael ddydd Llun yn dilyn "nifer sylweddol" o gwynion gan drigolion lleol am ddefnydd o gyffuriau a'u gwerthiant yn hanu o'r adeliad.
Roedd yr hysbysiad cyhoeddus yn weithredol am 48 awr a oedd yn rhoi cyfle i swyddogion fynd i'r llys i ofyn am estyniad cyfreithon i wahardd pawb o'r adeliad, ar wahan i'r perchennog, am gyfnod o dri mis.
Cafodd yr heddlu yr estyniad gan ynadon fore Mercher.

Os fydd swyddogion yn canfod pobl yn yr eiddo nad oes ganddynt yr hawl i fod yno, fe allant gael eu carcharu am gyfnod o chwe mis, a wynebu dirwy ariannol hyd at £5000 neu’r ddau.
Dwyeddod llefarydd: "Gobaith Heddlu Gogledd Cymru yw y bydd y cyfnod estynedig o dri mis yn rhoi digon o amser i berchennog yr eiddo i newid eu ffordd ddrygionus o fyw, a manteisio ar wasanaethau cefnogi er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau am byth."
"Hyderwn hefyd y bydd yr ardal yn dychwelyd i fod yn stryd dawel a diogel, fel y gall y trigolion fyw eu bywydau’n heddychlon, heb orfod byw o dan gysgod anobaith cyffuriau a thorcyfraith."


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'