
Bydd 14 o bobl o Ynys Môn a Gwynedd yn cael eu derbyn i'r Orsedd Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.
Bydd yr arwisgiadau yn digwydd ar Faes yr Eisteddfod ar gyrion dinas Wrecsam, fore Llun 4 Awst a bore Gwener 8 Awst.
Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.
Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.
Gwisg Las
Mae’r rheini sy’n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.
Rhun ap Iorwerth
Mae Rhun ap Iorwerth yn fwyaf adnabyddus fel Aelod Senedd dros Ynys Môn, ac er 2023 fel arweinydd Plaid Cymru. Cyn hynny, bu’n ddarlledwr ac yn un o newyddiadurwyr amlycaf Cymru yn y ddwy iaith tan i’r awydd i wasanaethu ei fro a phobl Cymru ei arwain i fyd gwleidyddiaeth. Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn weithgar yn ei gymuned, yn llywodraethwr ysgolion, yn arweinydd ar ddigwyddiadau a chyngherddau lleol, ac yn gefnogwr i amrywiol fudiadau yn cynnwys cyfnod fel noddwr i’r elusen Awyr Las. Bu hefyd, tan yn ddiweddar, yn hyfforddwr ieuenctid yng Nghlwb Rygbi Llangefni.
David Aykroyd
Mae pob cymuned yn elwa o unigolion sy’n cyfrannu at wella bywyd bob dydd, ac mae David Aykroyd yn llysgennad arbennig dros dref Y Bala. Gyda’i frawd, Nigel, mae’n rhedeg cwmni dillad nos, dillad dydd a dillad nofio hynod lwyddiannus, sy’n gyflogwr pwysig yng nghefn gwlad Cymru. Mae cyfraniad y brodyr wedi gwella’r celfyddydau, nifer o fentrau a chwaraeon lleol, gyda’r gefnogaeth sydd wedi gyrru CPD Y Bala i Uwch Gynghrair Cymru a hwyluso’u cyflawniadau Ewropeaidd, ond un enghraifft o gyfraniad y ddau i’w cymuned leol.
Nigel Aykroyd
Gyda’i frawd, David, mae cyfraniad Nigel Aykroyd i dref Y Bala wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd, nid yn unig trwy eu cwmni llwyddiannus sy’n cyflogi nifer fawr o bobl leol, ond hefyd trwy gefnogi’r gymuned. Ers diwedd y 1990au mae’u cwmni’n darparu meithrinfa Gymraeg yn y dref, sydd erbyn hyn, a chyda chefnogaeth y brodyr, wedi datblygu fel Canolfan Deuluol Y Bala sy’n cynnig gwasanaeth gwerthfawr i’r gymuned. Mae’r ddau frawd hefyd yn noddi’r celfyddydau, chwaraeon lleol a mentrau lleol, gan gyfrannu at wytnwch a pharhad ein hiaith yn ardal y Bala.
Bill Davies
Yn wreiddiol o Borthmadog, mae Bill Davies, Caerdydd, wedi cefnogi eisteddfodau lleol a chenedlaethol ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd. Bu’n ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Bro Llandegfan am dros 20 mlynedd, yn gadeirydd Eisteddfod Môn, 2008, ac erbyn hyn mae’n aelod ac yn ymddiriedolwr o Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd, gan weithredu fel yr is-gadeirydd. Mae hefyd yn is-gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Bu’n gweithio ym maes adnoddau dynol drwy gydol ei yrfa, a hynny ar draws Cymru, gwasanaethodd ar nifer o gyrff a sefydliadau yma, gan gynnwys Awdurdod S4C a Thribiwnlysoedd Cyflogaeth Cymru, ac mae’n parhau i weithredu fel cadeirydd ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru.
Llinos Griffin
‘Does neb wedi gwneud mwy i gefnogi cymunedau Croesor, Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth na Llinos Griffin. Mae hi wedi cynhyrchu degau o ffilmiau cymunedol i hyrwyddo busnesau a sefydliadau lleol, ynghyd â phrosiect ‘Byw.Bod’ a ddaeth â mentrau annibynnol lleol ynghyd i gynnig profiadau a gwasanaethau i ddenu ymwelwyr i’r ardal a’u cyflwyno i’r Gymraeg. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am greu Hwb Croesor, sydd bellach yn grŵp o dros 30 o wirfoddolwyr, ac mae hi hefyd yn athrawes Gymraeg uchel ei pharch sy’n ysbrydoli ei dysgwyr gan sicrhau eu bod yn credu fod ganddynt gyfraniad gwerthfawr i’w wneud i’r Gymraeg a’n diwylliant.
Nia Wyn Jones
Mae’n anodd mesur y gwahaniaeth a wnaeth Nia Wyn Jones, Llangefni, i gadarnhau statws y proffesiwn cyfieithu drwy ei gwaith fel rheolwr systemau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ac yn sgil hynny gyfrannu at normaleiddio’r iaith mewn cynifer o feysydd. Hi oedd yn gyfrifol am redeg system arholi’r Gymdeithas, trefnu lleoliadau’r arholiadau a’r byrddau arholi, a’r gweithdai, gan redeg a datblygu gwefan y Gymdeithas am flynyddoedd lawer. Mae Nia yn weinyddwraig heb ei hail, ac mae’n bleser gan yr Orsedd ei hanrhydeddu eleni.
Dewi Llwyd
Yn newyddiadurwr a darlledwr sy’n llais cyfarwydd i’r mwyafrif ohonom yng Nghymru, mae Dewi Llwyd, Bangor, wedi adrodd ar rai o straeon newyddion mwyaf Cymru a’r byd yn y Gymraeg ers bron i hanner canrif. Bu’n wyneb rhaglenni etholiadol S4C, a bu’n cyflwyno prif raglen newyddion y sianel ynghyd â’r rhaglen drafod ‘Pawb a’i Farn’ am flynyddoedd. Mae’i raglenni ar Radio Cymru wedi cynnwys ‘Dewi Llwyd ar fore Sul’, ‘Hawl i Holi’, ‘Post Prynhawn’ a ‘Dros Ginio’, ac mae’n parhau i gyflwyno ‘Dros Ginio’ yn wythnosol. Mae’i gyfraniad i fyd newyddiaduraeth Gymraeg, a thrwy hynny at ein hiaith a’n diwylliant yn enfawr.
Lyndon Miles
Mae Dr Lyndon Miles wedi gwasanaethu cymunedau’r gogledd orllewin am 34 mlynedd. Yn wreiddiol o Ddowlais, cafodd ei addysg feddygol yn Sheffield cyn symud i Fangor lle y bu’n gweithio fel meddyg teulu. Yn frwdfrydig i wella gwasanaethau i bobl mewn ardaloedd difreintiedig, bu’n arwain y gymuned i sefydlu Canolfan Byw’n Iach, Maesgeirchen. Cyflawnodd amryw o rolau arweinyddiaeth ym maes iechyd, yn lleol a chenedlaethol. Bu’n gadeirydd Cydffederasiwn GIG Cymru ac, ar ôl ymddeol, bu’n gadeirydd Hosbis Dewi Sant am dros wyth mlynedd. Wedi dysgu Cymraeg, mae’n angerddol dros ein hiaith ac yn gallu ymdrin â chleifion a chynnal trafodaethau meddygol yn Gymraeg.
Enlli Môn Thomas
Ers penodiad cyntaf r Athro Enlli Thomas, Abergwyngregyn, fel Ymchwilydd Ôl-Ddoethur yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, mae’r Gymraeg wedi bod yn ganolog i’w gyrfa fel darlithydd ac ymchwilydd. Mae ei chyfraniad i’r Gymraeg o fewn y sefydliad, ac yn genedlaethol, wedi bod yn sylweddol. Mae hefyd wedi ymgymryd â’i huchelgais o sicrhau mynediad at addysg Gymraeg ym Mangor ac o fewn pynciau seicoleg ac addysg yn ehangach. Mae ei brwdfrydedd at addysg Gymraeg, gan sicrhau fod darlithwyr ac adnoddau ar gael, wedi bod yn ganolbwynt i’w gweledigaeth. Mae hi’n parhau drwy osod strategaeth y Gymraeg ar lefel reoli’r Brifysgol a thrwy annog myfyrwyr PhD i ymgymryd ag ymchwil am addysg Gymraeg.
Gwisg Werdd
Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r celfyddydau.
Bydd yrheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd.
Gwyn Anwyl
Mae Gwyn Anwyl, Ynys Môn, yn un o ffanfferwyr yr Orsedd, ac yn chwarae rhan allweddol ym mhob un o seremonïau’r Orsedd er 2021. Mae’n bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Syr Thomas Jones. Mae’n aelod o Seindorf Beaumaris ac yn cystadlu’n gyson gyda’r band, gan gynnwys yn yr Eisteddfod; yn ogystal mae Gwyn yn aelod o barti Hogia Llanbobman sydd hefyd yn cystadlu’n gyson.
Mared Lewis
Mae Mared Lewis, Ynys Môn, wedi ac yn parhau i roi gwasanaeth diwyd i’w hardal, i Gymru, y Gymraeg a’n diwylliant ers blynyddoedd. Yn awdur saith o nofelau i oedolion, mae hi hefyd wedi cyfrannu sawl nofel ar gyfer dysgwyr fel rhan o’r gyfres ‘Amdani’. Mae’n weithgar gyda’r papur bro lleol, ‘Papur Menai’ a chydag Eisteddfod Môn. Yn wir, mae’n aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, a hefyd yn diwtor poblogaidd sy’n dysgu Cymraeg i oedolion yn lleol. Braf yw ei chroesawu i’r Orsedd eleni.
Hywel Wyn Owen
Mae’r Athro Emeritws Hywel Wyn Owen, Llandegfan, yn adnabyddus fel arbenigwr ar enwau lleoedd Cymru. Yn wreiddiol o Benbedw, bu’n athro Lladin a Saesneg yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, cyn symud i hyfforddi athrawon yn y Coleg Normal ym Mangor. Sefydlodd Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd yn y brifysgol lle cafodd ei benodi’n gyfarwyddwr a dyfarnu cadair bersonol iddo. Yno roedd yn gyfrifol am y gwaith o ddigido Archif Melville Richards, un o drysorau’n cenedl bellach. Bu’n llywydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, y Society for Name Studies in Britain and Ireland a’r English Place-Name Society, ac mae’n aelod o banel Comisiynydd y Gymraeg ar enwau lleoedd. Mae’n dal i gyfrannu at ddigwyddiadau cymunedol a chenedlaethol sy’n hyrwyddo enwau a Chymreictod.
Rhys Roberts
’Does neb fel Rhys Roberts, Blaenau Ffestiniog am hyrwyddo ac atgyfnerthu’r celfyddydau ymysg pobl ifanc yn ei gymuned leol. Mae’n gweithio’n galed ac yn aml yn wirfoddol i sicrhau fod pobl ifanc dosbarth gweithiol yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau o fewn y celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, creu ffilmiau, trefnu gigs a digwyddiadau celfyddydol. Mae’r plant sy’n dod drwy raglenni Rhys yn cael eu hymbweru i deimlo balchder yn eu bro, ac mae’n cynnig cefnogaeth a chyfeiriad iddynt – ac yn credu yn eu potensial nhw. Mae hefyd yn aelod o’r band, Anweledig, sydd wedi ail-ffurfio i chwarae yn yr Eisteddfod eleni.
Dylan Williams
Mae ymroddiad Dylan Williams, Caernarfon, i addysgu, ysbrydoli a denu diddordeb ym myd cerddoriaeth yn uchel iawn, yn arbennig ymhlith bechgyn ifanc. Mae’n credu’n gryf mewn rhoi cyfle i bob plentyn dderbyn gwersi offerynnol ac yn pwysleisio fod cerddoriaeth i fod yn hwyl i bawb! Mae wedi addysgu cannoedd o blant yn ysgolion rhanbarth Caernarfon dros y blynyddoedd, yn arwain band iau y rhanbarth, band Pres Hŷn Gwynedd a Môn, ac wedi cael llwyddiannau mawr gyda bandiau Ysgol Brynrefail, Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Bontnewydd. Mae hefyd yn brif gornedydd Seindorf Arian Deiniolen, sy’n gystadleuwyr brwd bob blwyddyn.