
Mae pedwar o raddedigion wedi dechrau ar eu gyrfaoedd drwy gynllun Cyngor Môn.
Wedi’i lansio yn gynharach eleni, mae’r rhaglen Dyfodol Môn yn rhoi cyfle i raddedigion lleol gael profiad gwaith gwerthfawr tra’n astudio tuag at gymhwyster ôl-raddedig.
Yn ôl y cyngor sir, nid yn unig yw’n eu cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau a meithrin gyrfaoedd llewyrchus gyda’r cyngor, mae hefyd yn helpu i gynllunio olyniaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae'r graddeigiion newydd wedi dechrau yn eu swyddi mewn amyrwiaeth o feysydd yn cynnwys datblygiad economaidd, cyfrifeg a pheirianneg yrydanol.
Dywedodd Llio Hughes, un o’r ymgeiswyr llwyddiannus: "Roeddwn wrth fy modd ac yn ddiolchgar iawn o dderbyn y cynnig, yn enwedig fel rhywun a oedd wedi graddio’n ddiweddar ac a oedd yn poeni am y cam nesaf."
"Mae’r cyfle hwn wedi rhoi dechrau da i mi ac edrychaf ymlaen at gael profiadau gwerthfawr ac i ddysgu yn y gweithle.”
"Credaf fod y cyngor yn dymuno gweld eu gweithwyr yn llwyddo ac yn ffynnu a’u bod wedi ymrwymo i gynnig y gefnogaeth er mwyn gweld hynny’n digwydd.”
Mae cynllun graddedigion Dyfodol Môn yn adlewyrchu uchelgais ehangach y cyngor sir fel sydd wedi’i amlinellu yng nghynllun y cyngor (2023-2028) sy’n ceisio creu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu.
Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard, y graddedigion i’r cyngor a dywedodd: “Mae cynllun Dyfodol Môn yn darparu llwyfan rhagorol i bobl leol ddechrau ar eu gyrfaoedd, datblygu sgiliau newydd a chwarae rôl bwysig wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer ein cymunedau.”
“Mae cefnogi a meithrin talent yn rhan allweddol o’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Môn. Mae’r cynllun hefyd yn darparu cyfle gwerthfawr i raddedigion sy’n dymuno dychwelyd i Fôn i fyw ac i weithio.”
Fel cyflogwr mwyaf yr Ynys, mae’r cyngor yn credu fod pawb yn haeddu cyfle i ddatblygu eu sgiliau ac i ffynnu yn yr yrfa maent yn ddewis.
Eglurodd Elen Pritchard, rheolwr dysgu a datblygu: "Mae rhaglen Dyfodol Môn yn ffordd wych o fuddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol. Rydym yn falch o weld y graddedigion yn llenwi’r rolau hyn ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu.”