Grŵp coleg i godi arian ar gyfer ambiwlans awyr

Monday, 8 September 2025 16:52

By Ystafell Newyddion MônFM

Grŵp Llandrillo Menai

Mae myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel eu helusen y flwyddyn.

Bydd myfyrwyr a staff yn codi arian ar gyfer y gwasanaeth achub bywyd drwy gydol blwyddyn academaidd 2025-26 yn dilyn ymweliad â'u canolfan ym Maes Awyr Caernarfon.

Bydd cyfle gan fyfyrwyr i ymweld â'r ganolfan, cael golwg fanylach ar yr hofrennydd, yr RRVs a'r cit yn ogystal â chlywed gan glinigwyr a chleifion blaenorol am sut mae'r gwasanaeth wedi eu helpu. 

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gobeithio y bydd yr ymweliad yn ysbrydoli pawb i wneud cymaint ag y gallant i helpu.

Meddai Troy Maclean, llywydd undeb myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor: "Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein partneriaeth elusennol gydag Ambiwlans Awyr Cymru."

"Dyma elusen bwysig iawn ac rydym yn edrych ymlaen at godi ymwybyddiaeth a chodi arian i gefnogi ymdrechion hanfodol yr elusen i achub bywydau."

“Rwy’n edrych ymlaen at ein hwythnosau elusennol, lle byddwn yn hyrwyddo Ambiwlans Awyr Cymru ac yn rhannu gwybodaeth am ei gwaith, arferion gweithredol a sut y gallwn ni helpu.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth achub bywyd dan arweiniad meddygon ymgynghorol sy'n mynd â thriniaethau safon ysbyty yn uniongyrchol at y cleifion ac, os oes angen, yn eu cludo i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.

Cyflwynir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r fflyd o gerbydau ymateb brys (RRVs) ar y ffordd.

Mae Meddygon Ymgynghorol ac Ymarferwyr Gofal Critigol medrus iawn yn gweithio ar gerbydau'r elusen yn cyflenwi'r gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, rhoi trallwysiadau gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hynny i gyd yn lleoliad digwyddiad.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, mae criwiau ymroddedig yr elusen, waeth ble maen nhw wedi'u lleoli, yn teithio hyd a lled y wlad i ddarparu gofal critigol brys.

Dyweddod Elaine Orr, rheolwr codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru yn y Gogledd Orllewin: "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel ei elusen y flwyddyn."

"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ac yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda phawb dros y deuddeg mis nesaf."

"Fel unig wasanaeth ambiwlans awyr Cymru, rydym yn dibynnu ar y cyhoedd i godi arian i'n helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb brys ar y ffordd."

"Drwy haelioni ein cefnogwyr, rydym yn ymdrechu'n gyson i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn elwa o'n gwasanaeth hanfodol ledled gogledd Cymru."

"Gobeithio y gallwn gyda'n gilydd greu cyfleoedd codi arian cyffrous iawn y bydd pawb eisiau cymryd rhan ynddynt. Bydd pob punt a godir yn helpu i achub bywydau."

Ychwanegodd Aaron Beacher, swyddog cyfoethogi profiadau myfyrwyr y grŵp: "Ein prif nod yw codi ymwybyddiaeth am waith yr elusen a chodi cymaint o arian ag y gallwn yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf."

"Mae ein hymgyrch codi arian yn cael ei arwain i raddau helaeth gan fyfyrwyr, nhw fydd yn arwain y ffordd o ran y ddigwyddiadau maen nhw am eu cynnal. Rwy'n disgwyl i rai syniadau diddorol ddod i'r amlwg yn ystod ein cyfarfod nesaf."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The Country Show

    7:00pm - 9:00pm

    Love Country? You're in the right place... Ray's here with a great playlist.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'