Gwaith ar y gweill i rai o briffyrdd Gwynedd

Friday, 23 May 2025 14:45

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Bydd nifer o ffyrdd yng Ngwynedd yn gweld gwelliannau dros y ddwy flynedd nesaf wedi i Gyngor Gwynedd dderbyn grant gwerth £7.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r buddsoddiad yn cynnwys gwelliannau i dros i 60 o ffyrdd, llwybrau a strwythurau mewn ardaloedd ar hyd a lled Gwynedd; o Lanrug i Lanystumdwy ac o Dudweiliog i Dywyn.

Bu i Gyngor Gwynedd ddarparu tystiolaeth gadarn i Lywodraeth Cymru am yr angen am fuddsoddiad ac o ganlyniad mae Menter Benthyca Llywodraeth Leol wedi ei ganiatáu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i wella priffyrdd yn ystod y cyfnod 2025-2027.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwaith ail-wynebu ffyrdd, gwaith ‘tar a chip’, trwsio llwybrau troed a gwaith ar strwythurau priffyrdd fel pontydd neu waliau cynnal

Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, arweinydd y cyngor: "Mae cyflwr y ffyrdd yn rhywbeth sy’n poeni nifer fawr o bobl leol, ond oherwydd sefyllfa ariannol ddyrys awdurdodau lleol nid ydym wedi gallu buddsoddi yn y rhwydwaith fel yr hoffem."

"Dwi’n hynod falch felly  fod ein cais drwy’r Cynllun Benthyca Llywodraeth Leol wedi bod yn llwyddiannus."

“Bydd y buddsoddiad yma yn gwneud gwahaniaeth enfawr a thargedu’r ardaloedd mwyaf anghenus o ran tyllau mewn ffyrdd, ail-wynebu, llwybrau cerdded, a strwythurau eraill.”

Ychwanegodd y Cynghorydd June Jones, aelod y cabinet gyda chyfrifoldeb dros priffyrdd: "Mae’r newyddion hynod o dda yma am ein galluogi i gyflwyno rhaglen waith llawer ehangach na’r hyn fyddai wedi gallu derbyn sylw heb y buddsoddiad hwn."

“Mae’r newyddion yma hefyd yn golygu bydd y Cyngor yn gallu cynllunio gwariant yn llawer gwell. Er enghraifft, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf gwariwyd £750,000 ar lenwi tyllau ar ein rhwydwaith yma yng Ngwynedd."

"Nid yw hyn yn ddefnydd gorau o’n harian refeniw cynnal ffyrdd gan ei fod yn llwyr ymatebol."

“Drwy’r buddsoddiad hwn dros ddwy flynedd, rydym yn ffyddiog byddwn yn lleihau ein gwariant brys ar lenwi tyllau yn y ffordd a gwario mwy ar waith ail-wynebu rhaglenedig.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'