
Mae Caergybi ar fin cael hwb gwerth £3.25 miliwn trwy gyllid treftadaeth wrth i waith atgyweirio ddechrau ar nifer o adeiladau hanesyddol amlwg ar y stryd fawr.
Bydd chwech adeilad – gan gynnwys tafarn leol adnabyddus – yn cael eu hadfer i edrych sut oedden nhw’n wreiddiol.
Mae’n rhan o raglen ehangach o ddatblygu yn Nghaergybi sydd eisoes wedi gweld gwaith sylweddol i adnewyddu adeiladau o amgylch canol y dref.
Ymhlith y busnesau cyntaf i gael eu trawsnewid fel rhan o’r cynllun hwn, mae tafarn Gleeson’s ar Stryd Stanley.
Dwyeddod Sandra Hiddleston, landlord y dafarn: "Rwy’n teimlo’n gyffrous i weld y dafarn yn cael bywyd newydd. Mae wedi bod yn rhan o’r gymuned ers sawl cenhedlaeth, ac mae’n haeddu edrych ar ei orau unwaith eto."
“Mae’r buddsoddiad yn golygu y gallwn warchod hanes a chymeriad y dafarn, yn ogystal â rhoi golwg newydd iddi. Rwy’n gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i ymweld ac i gefnogi busnesau lleol.”
Bwriad y fenter yw gwella canol y dref, denu mwy o ymwelwyr, ac annog rhagor o fuddsoddiad preifat i’r ardal.
Ond mae arweinwyr Cyngor Ynys Môn yn awyddus i bwysleisio bod Stryd Stanley yn parhau i fod ar agor fel arfer.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gary Pritchard, arweinydd y cyngor: "Mae’r prosiect hwn yn rhan allweddol o ymdrechion parhaus y cyngor i gefnogi adfywio Caergybi, ac rydym yn falch o’i yrru ymlaen. Rydym yn hyderus y bydd yn cael effaith hir dymor, gan roi hwb i’r economi leol a chryfhau’r gymuned."
"Wedi fy magu yn y dref, rwy’n gwybod pa mor arbennig yw ei hanes a’i diwylliant. Rydym eisiau adeiladu ar yr hunaniaeth unigryw honno mewn ffordd sy’n fuddiol i’r trigolion a’r busnesau lleol."
"Ein nod yw helpu i greu canol tref fywiog, croesawgar sy’n adlewyrchu gwir botensial Caergybi ac yn agor y drws i gyfleoedd newydd."
Dwyeddod llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Efallai y bydd rhywfaint o darfu am resymau diogelwch ac ymarferol, ond bydd trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod busnesau’n cael eu cefnogi ac yn aros ar agor cyhyd ag y bo modd yn ystod y cyfnod hwn."