Gweinidog yn ymweld â fferm cig ecogyfeillgar

Friday, 30 May 2025 15:00

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymweld â fferm arobryn ym Môn i weld sut y mae arferion ffermio cynaliadwy yn batrwm ar gyfer cynhyrchu bwyd mewn ffordd ecogyfeillgar yng Nghymru.

Bu'r Huw Irranca-Davies ar ymweliad â fferm Castellior yn ddiweddar i ddysgu sut mae'r ffermwr, Dylan Jones, yn llwyddo i wneud elw wrth gynhyrchu cig eidion, gan arfer stiwardiaeth ar yr amgylchedd ar yr un pryd.

Mae fferm Castellior, sy'n ymestyn dros 332 o hectarau ac sy'n cael ei rhedeg gan Dylan a'i dad, Wyn, wedi cael cydnabyddiaeth a chryn glod yn ddiweddar yn Noson Wobrwyo Cymdeithas Tir Glas Prydain 2024, a chafodd Dylan hefyd ei enwi'n Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn yng Ngwobrau Farmers Weekly 2024. 

Yn ystod ei ymweliad, dywedodd Mr Irranca-Davies: "Mae cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy dal yn ganolog i'r cynllun ffermio cynaliadwy."

"Ond bydd y newidiadau mawr i'n hinsawdd a'n tywydd yn parhau dros y degawdau nesaf, ac mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau 'nawr i feithrin gwydnwch ac addasu er mwyn ymdopi ag effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd."

"Mae Dylan yn esiampl wych o sut gall ffermydd addasu sut maen nhw'n rgeoli tir pori er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, ond gan barhau'n broffidiol ar yr un pryd  mae hynny'n beth da i fusnesau ac i'r amgylchedd." 

Rhywbeth arall sy'n tystio i ymrwymiad Dylan i arloesi yw ei gais llwyddiannus am Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, sy'n rhoi cymorth i ffermwyr brofi ffyrdd newydd o wella cynaliadwyedd. 

Nod ei brosiect, 'Gwerthuso ffynonellau ffosffad gan ddefnyddio ydau cartref er mwyn cadw cydbwysedd rhwng maetholion ar y fferm ac ôl troed amgylcheddol', yw dod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy o reoli maetholion hanfodol ar y fferm. 

Mae'r gronfa yn galluogi ffermwyr Cymru i arbrofi gyda thechnegau arloesol y byddai gormod o risg yn gysylltiedig â nhw pe na bai cymorth ar gael i roi cynnig arnynt. Y nod yw sbarduno gwelliant parhaus ar draws y sector amaethyddol. 

Mae Dylan hefyd yn aelod gweithgar o'r Grŵp Llywio Ffermwyr a sefydlwyd gan Cyswllt Ffermio, gan rannu ei arbenigedd er mwyn helpu i lywio cynnwys a ffocws Cyswllt Ffermio. 

Dywedodd Dylan: "Ro'n i'n falch o groesawu'r Dirprwy Brif Weinidog i'r fferm i ddangos y cynnydd a'r datblygiadau rydym ni wedi'u gwneud dros y deg mlynedd ddiwethaf."

"Mae ein cydweithrediad gyda Farming Connect dros gyfnodau gwahanol yn ystod y cyfnod hwn wedi darparu canllawiau gwerthfawr ac wedi ein helpu i gael yr hyder i symud ymlaen."

"Yn ystod yr ymweliad, cafodd sgwrs agored a chreadigol am yr heriau parhaus sy'n wynebu'r sector amaethyddol."

"Roeddwn i'n ddiolchgar am agwedd barchus y Dirprwy Brif Weinidog a'i barodrwydd i wrando ar fy nghydymdeimladau, yn enwedig o amgylch diogelwch bwyd a dyfodol hirdymor amaethyddiaeth yng Nghymru."

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr cyflenwi gwasanaethau ar gyfer Cyswllt Ffermio gyda Mentera: "Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle gwych i'r Dirprwy Brif Weinidog weld yr effaith mae'r rhaglen bwysig hon yn ei chael ar y diwydiant amaethyddol."

"Wrth i'r diwydiant amaethyddol bontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, bydd y gefnogaeth sy'n cael ei chynnig gan Cyswllt Ffermio yn hanfodol. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Dylan ar rai o'r prosiectau arloesol y mae wedi bod yn ymhel â nhw yng Nghastellior."

Bydd canlyniadau gwaith arloesol Dylan yn cael eu rhannu mewn taith gerdded a fydd yn cael ei chynnal gan rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio ym mis Medi, gan roi cyfle i ffermwyr eraill o Gymru ddysgu oddi wrth y ffordd gynaliadwy o weithio sydd ar waith yng Nghastellior. 

Mae'r fferm yn dangos sut y gall canolbwyntio ar iechyd pridd, defnyddio adnoddau mewn ffordd effeithlon, a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata, greu system ffermio sy'n amgylcheddol gyfrifol ac yn creu dyfodol economaidd hyfyw i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'