Gwobr genedlaethol ar gyfer canolfan amrywiaeth

Wednesday, 3 December 2025 18:21

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae prosiect ar gyfer cymunedau amrywiol yn Ynys Môn wedi ennill gwobr genedlaethol.

Sefydlwyd Hwb Cymunedol Amrywiol Môn ym mis Ionawr 2025, ac mae'n cynnig lleoliad croesawgar, cefnogol a chynhwysol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches o Affganistan, Wcráin a Syria yn ogystal â chymunedau lleol ehangach.

Mae'r teuluoedd a'r unigolion hyn wedi ffoi gwrthdaro yn eu gwledydd eu hunain, cyn setlo yn Ynys Môn.

Roedd y prosiect yn fuddugol yn y categori ar gyfer cydraddoldeb, cynhywsiant a chydlyniant yng Ngwobrau Mwy Diogel Cymru 2025.

Mae'r hwb yn helpu preswylwyr i gysylltu, i feithrin perthnasau a manteisio ar wasanaethau hollbwysig drwy sesiynau wythnosol a rhaglen o weithgareddau sy'n parhau i ddatblygu.

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n dal y portffolio ar gyfer tai a diogelwch cymunedol: "Rwy'n falch iawn fod Hwb Cymunedol Amrywiol Môn wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei effaith gadarnhaol ar ddiogelwch cymunedol, cynhwysiant a llesiant."

"Mae'r wobr yn adlewyrchu ymrwymiad ein staff, ein partneriaid a'n gwirfoddolwyr, a'r teuluoedd sy'n cymryd rhan bob wythnos. Mae'r hwb yn dwyn ynghyd popeth sy'n dda am Ynys Môn - mae'n groesawgar, cartrefol, cefnogol ac yn dangos beth ellir ei gyflawni wrth i gymunedau ddod ynghyd."

Mae dros 400 o unigolion wedi ymwneud â'r hwb ers ei lansio, ac mae preswylwyr hen a newydd bellach yn cymryd rhan.

Mae'r hwb yn cyflawni rôl ataliol hollbwysig drwy leihau teimladau o fod yn ynysig, gwella cyfleoedd i gael cefnogaeth a chryfhau hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Mae cyfraniadau cyson gan Heddlu Gogledd Cymru yn helpu i sicrhau bod pryderon yn cael eu hadrodd yn ddiogel, ac mae partneriaethau megis Cymru Gynnes, Môn CF, a'r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn helpu i ymdrin ag elfennau bregus sy'n ymwneud â thai, cyflogaeth, a chyfrifoldebau gofalu.

Drwy gynnal digwyddiadau megis Wythnos y Ffoaduriaid yn swyddfeydd y cyngor sir, mae'r hwb hefyd wedi helpu i gael gwared ar unrhyw ddryswch am wybodaeth anghywir yn ymwneud â chynlluniau i ffoaduriaid neu gynnig lloches, ac wedi meithrin dealltwriaeth rhwng staff, cynghorwyr a theuluoedd sydd wedi setlo ym Môn.

Ychwanegodd Ned Michael, pennaeth gwasanethau tai Cyngor Môn: "Mae'r gydnabyddiaeth genedlaethol yn amlygu'r gwaith arbennig sy'n cael ei wneud drwy Hwb Cymunedol Amrywiol Môn, a'r gwahaniaeth mae'n ei wneud i fywydau pobl."

"Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad, fel y nodir yng nghynllun y cyngor, i weithio mewn partneriaeth i gefnogi ffoaduriaid sy'n dod i fyw i'r ynys."

"Mae'r hwb yn lleoliad diogel, lle gall pobl ddod i feithrin perthnasau, manteisio ar gefnogaeth a chyfrannu at ein cymunedau. Rydym yn falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni ac rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda'r gwaith pwysig hwn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ar y Lôn gydag Emyr Gibson

    4:00pm - 6:00pm

    Mae Emyr yma gyda digon o gerddoriaeth gwych, digon o hwyl, a digon o sgwrsio wrth i chi fynd am adra!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'