Gwobr goffa i Annette Bryn Parri

Tuesday, 18 November 2025 16:45

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae bywyd a threftadaeth Annette Bryn Parri wedi cael eu dathlu yng ngwobrau blynyddol Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd y cerddor ei lle cafodd ei anrhydeddu ar ôl ei marwolaeth am ei chyfraniad eithriadol i gôr y llu.

Roedd y seremoni, a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghadeirlan Llanelwy, yn talu teyrnged galonogol i Annette, a gydnabu nid yn unig ei dawn gerddorol, ond hefyd am y trugaredd a’r ymroddiad a ddangosodd fel cyfarwyddwr eerdd y côr.

Ni ellir enwebu neb am y wobr Cyfraniad Rhagorol, caiff ei gyflwyno gan y Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman, yn unig er mwyn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig.

Dyweddod y Prif Gwnstabl: "Bu marwolaeth sydyn Annette ym mis Mai yn destun tristwch mawr ar draws yr heddlu a chymuned ehangach Gogledd Cymru."

"Roedd Annette yn bianydd dawnus ac enwog, yn adnabyddus ledled y wlad a thu hwnt am ei dealltwriaeth gerddorol a’i dylanwad diwylliannol."

"Fel cyfarwyddwr cerdd dôr Heddlu Gogledd Cymru, nid yn unig gwnaeth hi ddod â’i dawn eithriadol ond hefyd ei chynhesrwydd, ei hiwmor a’i hymroddiad di-dor. O ddechrau’r côr, rhoddodd Annette o’i chalon i feithrin aelodau’r côr, gan greu lle i gysylltu ac ymfalchïo."

"Mae ei hetifeddiaeth hi’n parhau ym mhob llais sy’n canu, ac mewn ysbryd o undod a gafodd ei meithrin. Er iddi farw’n sydyn ym mis Mai, gwireddwyd ei breuddwyd o weld y côr yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr haf hwn – ennyd a oedd yn amgyffred ei chof a’i chariad."

Cafodd y wobr ei derbyn gan ferch Annette, Heledd Bryn Parri a’i ffrind gorau, Jennifer Elen.

Ychwanegodd cyfawrwyddwr y côr, Rhingyll Arwyn Tudur Jones: "Roedd Annette yn fwy na cherddor. Roedd hi’n ffrind, yn fentor ac yn ysbrydoliaeth."

"Roedd ei gweledigaeth ar gyfer ein côr yn uchelgeisiol, ac roedd ei chariad at y rhai a oedd yn rhan ohono yn ddiffuant. Er nad ydy hi hefo ni bellach, bydd ei gwaddol hi’n parhau i atseinio drwy’r gerddoriaeth a’r bywydau y cyffyrddodd â hi."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Miwsig MônFM

    6:00pm - 7:00pm

    Y gerddoriaeth orau ar MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'