
Bydd Hosbis Dewi Sant yn cau ei huned cleifion mewnol yng Nghaergybi dros dro o fis Hydref ymlaen.
Cafodd yr hosbis ''lloeren'' yn Ysbyty Penrhos Stanley - y cyfleuster cyntaf o'i fath ym Môn - eu agor ar Ddydd Gwyl Dewi 2021 yn dilyn ymgyrch codi arian.
Ond mewn datganiad ddydd Llun, cyhoeddodd yr elusen y byddai'n cau'r uned pedair gwely fel mesur dros dro.
Yn ôl y prif weithredwr Gareth Jones, gwnaed y penderfyniad oherwydd costau uwch a llai o incwm.
Bydd yr hosbis yn parhau i redeg ei safleoedd eraill yn Llandudno a Bangor - ond bydd adolygiad o'r cau dros dro yng Nghaergybi y flwyddyn nesaf.
Mae nifer o swyddi clinigol ac anghlinigol mewn perygl ac mae ymgynghoriad staff wedi dechrau.
Fe ddywedodd yr Aelod Seneddol, Llinos Medi bod yr penderfyniad yn "newyddion trychinebus i deuluoedd a staff Ynys Môn".
"Cefais brofiad personol a gofal rhagorol yng Nghaergybi rhai misoedd yn ôl. Mae’n rhaid gwarchod y gwasanaethau yma’n well. Byddaf yn cysylltu gyda’r hospis am gyfarfod brys."
Bydd cleifion hosbis yng Nghaergybi - a'u teuluoedd - yn cael cynnig mynediad at wasanaethau yn unedau Llandudno a Bangor.