Hwb ariannol i brosiectau Bro Aberffraw

Monday, 19 January 2026 14:23

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Mae dwy fenter gymdeithasol sy'n eiddo i'r gymuned yn cael eu datblygu yn ardal Bro Aberffraw, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae grwp Cynghrair Bro Aberffraw yn anelu at wella gwasanaethau lleol a chryfhau'r ardal yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol.

Mae'n un o 64 o brosiectau yng ngogledd a gorllewin Cymru i dderbyn grantiau gan gynllun Perthyn ers 2022.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys lansio gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol sy'n defnyddio bysiau mini trydan i leihau ynysu gwledig a gwella mynediad at wasanaethau.

Mae'r grŵp hefyd yn anelu at ailddatblygu cyfleusterau toiledau cyhoeddus Niwbwrch yn ganolfan gymunedol, gan ddarparu toiledau cyhoeddus, caffi, gwasanaeth llogi beiciau a phwynt gwybodaeth i ymwelwyr.

Yn ôl y grŵp cynghrair, bydd y Gymraeg yn ganolog i'r ddau brosiect.

Dyweddod Sara Spinks, cadierydd Cynghrair Bro Aberffraw: "Mae'r grant Perthyn wedi rhoi cyfle i'n cymuned droi syniadau a fu gennym am amser hir yn gynlluniau ymarferol a fydd o fudd i bobl leol."

"Bydd y prosiectau hyn yn helpu i gryfhau gwasanaethau yn yr ardal tra'n sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn ganolog i fywyd cymunedol."

Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael o gronfa Perthyn i helpu grwpiau i gymryd y camau cyntaf ar gyfer sefydlu a rhoi eu cynlluniau ar waith.

Ar ôl canolbwyntio ar chwe sir yng ngogledd a gorllewin Cymru, gan gynnwys Ynys Môn a Gwynedd, mae'r cynllun wedi'i ehangu fel y gall cymunedau ledled Cymru wneud cais.

Dywedodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r prosiectau cymunedol cyffrous yma, ynghyd â'r rhai eraill sydd wedi eu cefnogi gan grantiau Perthyn dros y blynyddoedd diwethaf, yn dangos sut gall gweithredu lleol gryfhau cymunedau, a chefnogi'r defnydd bob dydd o'r Gymraeg."

"Drwy ehangu cynllun grant Perthyn ledled Cymru, rydyn ni'n rhoi cyfle i fwy o gymunedau gymryd rheolaeth o'u dyfodol a rhoi'r Gymraeg wrth wraidd eu cynlluniau. Rwy'n annog grwpiau cymunedol i wneud cais cyn y dyddiad cau."

Rhaid i grwpiau cymunedol wneud cais erbyn 31 Ionawr 2026 drwy ddilyn y ddolen ar gwefan Cwmpas.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'