
Mae 'twyllwr proffesiynol' gafodd dros £500,000 gan ddioddefwyr bregus wedi ei wahardd am byth rhag galw di-wahoddiad i dai a gwerthu cynnyrch gwella cartrefi.
Cafodd Joseph Oliver, o Lytham St Annes, Swydd Gaerhirfryn, ei garcharu am bedair blynedd a naw mis ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl pledio'n euog i ddau gyhuddiad o redeg busnes twyllodrus.
Cafodd hefyd ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am 10 mlynedd.
Dilynodd hyn o ymchwiliad ar y cyd a oedd yn cynnwys swyddogion safonau masnach o Ynys Môn a Swydd Gaerhirfryn a thîm rhanbarthol.
Daeth yr ymchwiliad o hyd i 39 o ddioddefwyr rhwng 53 a 93 oed, gan gynnwys naw o bobl o Ynys Môn.
Collodd y dioddefwyr hyn rhwng £60 a £120,000 ac roedd cyfanswm y twyll werth dros £500,000. Yn ogystal â'r difrod i'w heiddo, cafodd y profiad effaith andwyol ar iechyd y dioddefwyr a ddisgrifiodd Oliver fel dyn 'cyfrwys', 'celwyddog', 'creulon' a 'thwyllwr proffesiynol'.
Tra'n ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod Oliver yn ddyn a oedd wedi "ecsbloetio dioddefwyr bregus ac oedrannus" drwy "anonestrwydd ofnadwy".
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug y mis diwethaf, fe dderbyniodd orchymyn ymddygiad troseddol. Yn ystod, y gwrandawiad, dywedwyd y byddai'n cael ei wahardd am byth rhag:
- bod yn rhan o unrhyw swydd mewn unrhyw fusnes sy'n ymwneud ag unrhyw fath o alw ar dai aelodau'r cyhoedd yn ddi-wahoddiad gyda'r bwriad o werthu, neu wneud paratoadau ar gyfer ceisio gwerthu, unrhyw gynnyrch.
- bod yn rhan unrhyw fusnes sy'n gwerthu unrhyw gynhyrchion gwella cartrefi neu warantau, gwarantau neu debyg i ddefnyddwyr sy'n cynnwys neu a allai gynnwys y diffynnydd yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw ddefnyddiwr yn eu cyfeiriad cartref.
O ganlyniad i Ddeddf Enillion Troseddau, bydd rhaid i Oliver hefyd dalu cyfanswm iawndal o £7,612.61 i'r tri dioddefwr gollodd y rhan fwyaf o'r arian, gan gynnwys un o Ynys Môn.
Os caiff Oliver unrhyw arian sylweddol, mae yna hefyd opsiwn o fynd yn ôl i hawlio gweddill y ffigwr budd-dal troseddol - hyd at £1.2 miliwn.
Dyweddod y Cynhorydd Nicola Roberts, sy'n gyfiriol am y portffolio Gwarchod y Cyhoedd yng Nghyngor Ynys Môn: "Mae ecsbloetio unigolion bregus yn y ffordd yma'n gwbl annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef."
"Rydym yn canmol dewrder y dioddefwyr a helpodd Swyddogion Safonau Masnach i ddod â'r dyn yma i gyfiawnder."
"Da ni'n croesawu'r euogfarn yma ac yn canmol y dioddefwyr am eu dewrder wrth helpu'r Swyddogion Safonau Masnach i erlyn y dyn yma. Mae cymryd mantais o bobl agored i niwed yn gwbl annerbyniol ac ni fyddwn yn gadael i hyn ddigwydd."
"Yn anffodus, mae lefel yr iawndal y bydd y tri dioddefwr yma'n ei dderbyn yn fychan dros ben o'i gymharu â'r dioddefaint a achosodd Oliver."
"Fodd bynnag, rwy'n falch ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o iawndal ar eu rhan a bod gennym hefyd yr opsiwn o ddychwelyd i'r llysoedd i sicrhau mwy."
"Anogir trigolion sydd wedi dioddef twyll tebyg neu sy'n poeni am rywun sy'n defnyddio'r un math o dechnegau masnachu i ffonio'r gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133, os nad er eu lles nhw eu hunain i amddiffyn aelodau eraill o'r gymuned a all fod yn agored i'r math yma o dwyll."
Gall bobl sy'n credu eu bod wedi dioddef o dwyll hefyd gysylltu ag Action Fraud trwy'r wefan.