
Bydd ap newydd ar gyfer pobl ifanc niwroamrywiol yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Bydd y tîm awtistiaeth gan Cyngor Gwynedd yn stodin Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a bydd cyfle i’r cyhoedd alw heibio i brofi'r Ap ‘Niwro Cymru’ ar ddydd Sadwrn 2 Awst a dydd Mawrth 5 Awst.
Bydd y seisynau yn helpu’r swyddogion i addasu a datblygu’r ap cyn ei lansio’n llawn ar ôl yr haf.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod y cabinet dros blant a chefnogi teuluoedd: "Mae’r prosiect hwn yn gam ymlaen i gydnabod, dathlu, a chefnogi niwroamrywiaeth ar draws ein cymunedau."
"Rydym wedi ymrwymo i wella’n darpariaeth yma yng Ngwynedd ac rydym yn ffyddiog y bydd yr Ap yn declyn ychwanegol gwerthfawr i deuluoedd gael mynediad at wybodaeth, gweithgareddau a chefnogaeth."
“Mae’r ap wedi’i gynllunio gyda phlant dan sylw; o’r dyluniad llachar, tawel a chyfeillgar i’r ffaith ei fod yn hawdd i’w lywio boed chi’n rhieni, gofalwyr, brodyr/chwiorydd neu’n weithwyr proffesiynol."
Mae ‘Niwro Cymru’ yn Ap dwyieithog wedi’i ddatblygu i gefnogi plant a phobl ifanc ac oedolion niwroamrywiol a’u teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Mae’n cynnig gwybodaeth glir a dibynadwy, gweithgareddau hwyliog a lleddfol, manylion digwyddiadau lleol a chymorth yn ogystal a adnoddau i weithwyr proffesiynol.
Fe’i datblygwyd drwy ymgysylltu’n uniongyrchol gyda phobl ifanc a’u teuluoedd yng Ngwynedd, a drwy adborth gwerthfawr a dderbyniwyd o’r Daith Niwro a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Defnyddiwyd y syniadau i greu cynnwys, y nodweddion allweddol, a dyluniad logo’r ap.
Mae’r Ap yn cynnwys nodweddion meddylgar megis:
- Animeiddiad cynnil, adborth haptig a synau nad ydynt yn tarfu
- Cynnwys all-lein er mwyn lleihau costau data i ddefnyddwyr
- Hygyrchedd: Cyferbynnedd, cynllun a 'thestun i leferydd'
Ychwanegodd y Cyngorhydd Dilwyn Morgan, caderiydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru: "Mae’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid i gefnogi lles pobl ar draws y Gogledd."
"Rwy’n falch iawn bod y Bwrdd wedi gallu buddsoddi yn y feddalwedd arloesol hon - y gyntaf o’i math yn y maes sydd ar gael yn y Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg. Mae’r Ap hwn yn adlewyrchu’r dull cydweithredol o gefnogi cynhwysiant digidol a hynny i’r rhai niwroamrywiol."
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod teuluoedd fydd yn cael cyfle i dreialu’r ap yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.”