Mae gyrrwr fan wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad yn dilyn marwolaeth bachgen chwech oed yn Llanfairfechan.
Bu farw'r bachgen ar ôl iddo gael ei daro gan fan tipio Ford Transit gwyn ar Ffordd y Felin tua 5yh nos Iau.
Mae dyn lleol 39 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru, wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad yr heddlu tra bod ymholiadau’n parhau.
Nid yw Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau unrhyw fanylion pellach, ond mae ditectifs wedi adnewyddu eu hapêl i dystion ddod ymlaen.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol: "Mae ein meddyliau yn gyntaf ac yn bennaf gyda theulu ac anwyliaid y plentyn yn ystod y cyfnod anodd hwn."
"Rydym yn cydnabod yr effaith ddifrifol mae trasiedi o'r fath yn cael ar deulu a’r gymuned yn ehangach."
"Mae ymchwiliad llawn i amgylchiadau’r gwrthdrawiad yn parhau. Rydym yn adnewyddu ein hapêl i unrhyw un a oedd yn yr ardal o amgylch Ffordd Pen y Bryn a Mill Lane tua 5 o’r gloch neithiwr ac sydd eto i siarad â ni, i gysylltu cyn gynted â phosibl."
"Rydym yn annog unrhyw un sydd â lluniau teledu cylch cyfyng preifat, camera drws ffrynt neu gamera cerbyd i gysylltu â ni. Efallai bod y rhain yn dangos rhywbeth nad oeddech yn meddwl oedd yn arwyddocaol ar y pryd."
"Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod rhywun arall wedi dod ymlaen – gallai hyd yn oed y darn lleiaf o wybodaeth helpu ein hymchwiliad i sefydlu beth ddigwyddodd."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Byddwn yn gofyn i bobl fod yn ystyriol o’r teulu a’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y drasiedi hon, ac i beidio â dyfalu am amgylchiadau’r gwrthdrawiad na rhannu deunydd ar-lein tra bod yr ymchwiliad yn parhau."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, neu drwy Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000807122.


Carcharu dyn ar ôl dod o hyd i gocên mewn car
Ymosodiad ar famog ym Mhenrhos Feilw
Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth