Mae llanc wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau o sarhad hiliol yn ystod gêm bêl-droed yn Llangefni.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ddigwyddiad honedig yn ystod derbi Môn rhwng Llangefni a Bae Trearddur yng Nghynghrair Ardal nos Wener diwethaf.
Adroddir bod sarhad hiliol wedi'i weiddi tuag at un o'r chwaraewyr gan wyliwr yn ystod y gêm yng Nghae Bob Parry.
Cafodd person ifanc eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond ers hynny, mae wedi cael ei roi ar fechnïaeth hefo amodau.
Mewn datganiad yn dilyn y gêm, dywedodd llefarydd ar ran Llangefni fod y clwb yn "drist iawn ac wedi synnu'n fawr gyda digwyddiad hiliol".
Ychawnegodd y clwb: "Nid oes lle o gwbl i hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath yn ein clwb, ym mhêl-droed, nac yn ein cymuned. Rydym yn estyn ein hymddiheuriadau diffuant i’r chwaraewr a effeithiwyd ac i Glwb Pêl-droed Bae Trearddur am yr ymddygiad annerbyniol hwn."
"Nid yw Clwb Pêl-droed Tref Llangefni yn derbyn hiliaeth o unrhyw fath. Rydym yn gweithio i adnabod yr unigolyn dan sylw ac yn addo cymryd y camau mwyaf llym unwaith y byddant wedi’u hadnabod."
"Rydym yn annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth berthnasol, i ddod ymlaen a chysylltu’n uniongyrchol â’r clwb yn gyfrinachol."
"Mae Clwb Pêl-droed Tref Llangefni yn sefyll yn gadarn dros barch, cydraddoldeb ac cynnwys - ar ac oddi ar y cae."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn trin y digwyddiad honedig fel un sy'n gysylltiedig â chasineb.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Wayne Francis: "Ni fyddwn yn goddef hiliaeth mewn unrhyw ffurf yn unrhyw le yn ein cymunedau ni – oddi mewn neu du allan i chwaraeon."
"Cymerodd swyddogion gamau cyflym yn dilyn riportio'r digwyddiad er mwyn adnabod y rhai a oedd yn gysylltiedig."
"Buaswn i'n hoffi diolch i'r ddau glwb pêl-droed am eu cefnogaeth barhaus."
"'Da ni’n cefnogi mentrau fel ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ sydd gan Gymdeithas Pêl Dreod Cymru. Fe wnawn ni barhau gweithio’n agos hefo partneriaid ac aelodau o’r gymuned er mwyn gwneud yn siŵr fod digwyddiadau fel hyn yn cael eu trin o ddifrif ac yn gadarn."
Roedd Bae Trearddur yn fuddugol o 5-1.


Cau ffyrdd ar gyfer Ffair Borth
Ailagor Pont Menai yn llawn ar dydd Gwener
Cyfyngiadau newydd ar gyfer tân gwyllt Caernarfon
Teuluoedd yn symud i gartrefi newydd yn Llanfaethlu
Bangor: cynlluniau i ymestyn gorchymyn diogelu mannau